Ceiriog | Page 7

John Ceiriog Hughes
wado fro ei fam.
Aed un i'r gad a'r llall i'r mor,
A'r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wnaiff y Cymro iawn.

Cydgan: Does neb yn caru Cymru 'n llai,
Er iddo grwydro 'n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol.
Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honi 'n hir,
Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,
Mae 'r cof am dad a mam yn mynd
I'r bwthyn yn y ddol,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw galw 'n ol.
Enilled aur ac uchel glod,
Mewn gwlad o win a mel;
Aed yn ei longau ar y mor,
Er maint o'r byd a wel;
Wrth edrych ar fachludiad haul
A gwylio ser y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
Yn son am Gymru dlos.
MI WELAF MEWN ADGOF.
ALAW,--Difyrrwch Arglwyddes
Owen.
Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,
A'r afon dryloew yn ymyl y
fan:
O'm blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A'r coedydd
gysgodent fy mhen rhag y gwres.
Yng nghanol eu cangau mae telyn y
gwynt,
Yn eilio 'r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy 'n teimlo fy
nhalcen dan heulwen yr haf,
A 'nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr
af.
Rwy'n gweled y defaid a'r wyn ar y bryn,
Rwy 'n gweled gwynebau

sy 'ngwaelod y glyn;
Rwy'n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,
Ar
mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.
O sued yr awel, a rhued y
don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan
dedwyddyd yn wag neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae 'r galon ple
bynnag yr awn.
DIM OND UNWAITH YN Y FLWYDDYN.
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Awn i fyny 'r cymoedd cain;
Awn i ogli 'r peraidd borwellt
Llysiau 'r mel a blodau 'r drain.
Dim ond unwaith yn y flwyddyn
Gwena 'r ddaear oll fel gardd;
Awn aan dro, tua bryniau 'n bro
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Pwy na chwery, pwy na chwardd?
Y MARCH A'R GWDDW BRITH.
ALAW,--Y Gadlys.
Caradog eilw 'i ddeiliaid,
Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
Ond ar y march a'r gwddw brith
Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith
I
edrych am Garadog.
Mae cynnwrf yn y ceunant,
Ar derfyn dydd y gad;
A dynion dewr orweddant,
I farw tros eu gwlad.
Yr afon foddodd fyddin,

Ond ar y march a'r gwddw brith,
Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith,

I edrych am y brenin.
Fe welodd y Rhufeiniaid
Y march a'r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
Frenhines yn eu plith.
Mae 'r corn yn ail-udganu,
Brythoniaid yn eu holau dront,
Rhufeiniaid yn eu holau ffont,
O
flaen cleddyfau Cymru.
Y FERCH O'R SCER.
ALAW,--Y Ferch o'r Scer.
Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i'r telynor am rai
blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe
berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun
i roi pen ar y garwriaeth. Gwnaed y don gwynfanus a phrydferth hon
gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a'i ofid.
'R wyf yn cysgu mewn dallineb
Ganol dydd a chanol nos;
Gan freuddwydio gweled gwyneb
Lleuad wen a seren dlos.
Tybio gweld fy mam fy hunan -
Gweld yr haul yn danbaid der;
Gweld fy hun yn rhoddi cusan
I fy chwaer a Merch y Scer.
Gwresog ydyw'r haul gwyneblon,
Oer, ond anwyl, ydyw 'r ser;
Gwres oer felly yn fy nghalon
Bar adgofion Merch y Scer.
Mae fy mam a'm chwaer yn dirion,
Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch y Scer sy 'n torri 'm calon,

Merch y Scer sy 'n cadw draw.
Cariad sydd fel pren canghennog,
Pwy na chara Dduw a dyn?
Cangen fechan orflodeuog
Ydyw cariad mab a mun.
O! 'r wy'n diolch ar fy ngliniau,
Am y cariad pur di-ball;
Cariad chwaer sy 'n cuddio beiau -
Cariad mam sy'n caru 'r dall.
PA LE MAE 'R HEN GYMRY?
ALAW,--Llwyn Onn.
Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl
deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o'r America
ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas
oeddynt. Y mae yr hanes am JOHN EVANS o'r Waunfawr, yn Arfon,
yn hynod effeithiol. Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o
sel grefyddol ydoedd ef. Ymgymerodd a'r gorchwyl mawr o fyned i
eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu
yr efengyl iddynt. Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o
filldiroedd, ond tarawyd ef a'r dwymyn, a bu farw, ymhell o'i fro
enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig. Y mae
pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi
cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen
Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil,
ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith

aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod
darawiadol.
Mae 'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 25
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.