Ceiriog | Page 6

John Ceiriog Hughes
ddywed fy nghalon."
Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
Y tanllyd lythrennau "NA PHECHA;"
Pe rhuai taranau pob oes yn uu
llef -
"Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;"
Pe mellten arafai nes aros yn
fflam,
I'm hatal ar ffordd anuwiolion,
Anrhaethol rymusach yw awgrym fy
mam, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
GWYN, GWYN YW MUR.
Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,
O'i bared tyf rhosynau coch
a gwyn;
Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw -
Tu fewn mae'r ferch,
fy nghariad wen, yn byw.
Y FENYW FACH A'R BEIBL MAWR.

[Mae y gan hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod
wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o'r gloch, boreu Ebrill y
3ydd, 1859. Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn
dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn,
ar y dydd a'r awr grybwylledig.--J. C. H.]
Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A'i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu 'r wylo iddi' hun,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai 'r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,
A llosgi 'r oedd y ganwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio 'r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddiau taer,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau 'r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythau
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai 'r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i'r nef,
Yn swn yr hen Feibl mawr.
Disgynna 'r gwlaw, ac eto 'r gwynt

A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei chanwyll frwyn;
Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.
DYCHWELIAD Y CYMRO I'W WLAD EI HUN.
O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar for ac ar dir,
Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.
Cyfeiriais fy nghamrau i'r
ardal hoff hon,
Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;
Daeth awel y mynydd fel
gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,
A golwg ar Gymru
gynhesodd ngwaed.
Ar dywod yr anial bu ol fy nau droed,
Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;
O'r fro lle nas tyfodd
glaswelltyn erioed,
I wledydd y mel a gwinllanoedd y gwin;
Yng Nghymru parhaodd fy
nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;
Mi groesais y mor i
eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,
Yng nghartref fy nhadau
gorffwysaf fy mhen.
ADDFWYN FIWSIG.

Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig,
Gwenferch gwynfa ydwyt ti;

Pan anedli, adfywiedig
Awel haf ddaw atom ni.
Gauaf du helbulon,
Droi yn ha;
Danat rhew y galon,
Toddi wna, toddi wna.
Dafnau melus bro gogoniant,
Yn dy lafar di
ddisgynnant;
Blodau Eden yn ddiri',
Dyfant, wenant, beraroglant,

Yn dy lais a'th wyddfod ti.
Nefol ferch ysbrydoledig,
Ti sy 'n puro 'r
fron lygredig,
Ti sy 'n llonni 'r cystuddiedig.
Addfwyn Fiwsig,
addfwyn Fiwsig
Gwenferch gwynfa ydwyt ti.
Y CANIADAU.
Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth
heblaw caneuon bychain o'r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw'r
Caniadau. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i
fyny yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i'r
lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer o honynt gadw
carwriaeth ac
eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a
bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gad yn galw, fe'u
cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw'n ddewr tros
Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin,
cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a'u cenedl.
BUGEILIO 'R GWENITH GWYN.
ALAW,--Bugeilio 'r gwenith
gwyn.
Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodau 'n dryfrith,
I gadw 'r adar bach ffwrdd

Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho'i ganiatad i'r deryn to,
A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.
Pan welot tithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i'w gweddi;
Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw,
Yn meddwl am roi iddi.
Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;
A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A'r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia'th frawd anghenus.
MAE 'N GYMRO BYTH.
ALAW,--O Gylch y Ford Gron.
Mae'n Gymro byth pwy bynnag yw,
A gar ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw 'n Gymro 'rioed,
A
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 25
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.