Ceiriog | Page 5

John Ceiriog Hughes
man.
MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD.
Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn
gyfieithiedig.
Daw meddyliau am y nefoedd

Gydag awel wan y nawn,
Gyda llanw'r mor fe ddeuant,
Gan lefaru 'n felus iawn;
Pan fo 'r mellt fel ser yn syrthio,
Yn y storm gynhyrfus, gref -
Pan fo 'r llong yn teimlo 'r creigiau,
Daw meddyliau am y nef.
Daw meddyliau am y nefoedd,
I unigedd fforest goed,
Ac i'r anial, lle nas tyfodd
Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau 'r ia tragwyddol,
Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
Daw meddyliau am y ne.
Daw meddyliau am y nefoedd
I ynysig leia 'r aig,
Lle mae 'r don yn gosod coron
Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd
Ddont eu hunain i bob man.
MAE JOHN YN MYND I LOEGER.
Y mae hen don wladol o'r enw Gofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y
cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i'w canu
arni, ond nid ydynt yn ymbriodi a'r alaw mor hapus ag y dymunwn.
Dymunwn ddyweyd am y gan ganlynol, mai ychydig iawn o
ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu
gallwn.
Mae John yn mynd i Loeger,

A bore fory 'r a;
Mae gweddw fam y bachgen
Yn gwybod hynny 'n dda;
Wrth bacio 'i ddillad gwladaidd,
A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
Fel arch ar fynd i ffwrdd.
Mae ef yn hel ei lyfrau,
I'r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
Gwychderau 'r trefydd mawr.
Nis gwel e 'r deigryn distaw
Ar rudd y weddw drist;
Na 'r Beibl bychan newydd
A roddwyd yn y gist.
Yn fore, bore drannoeth,
Pan gysgai 'r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
Mae John yn canu 'n iach.
Carasai aros gartref,
Ond nid oedd dim i'w wneyd -
Fe gawsai aros hefyd,
Pe b'asai 'n meiddio dweyd.
I gwrdd y tren boreuol,
Cyn toriad dydd yr a, -
"Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
O bydd yn fachgen da!
Y nef a'th amddiffynno,
Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio 'th gartref,
Na 'th wlad, na 'th iaith, na' th Dduw."

BUGAIL YR HAFOD.
ALAW,--Hobed o Hilion.
Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd,
A'r defaid yn dyfod i'r gwair
a'r iraidd yd;
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i,
Yn cysgu,
yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
Yno mae fy nghalon, efo hen
gyfoedion
Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.
Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu a naddu ar
aelwyd glyd fy nhad;
Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth,

Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lan y barth,
Deued a ddeuo, anian dynn yno,
Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd
hiraeth
I'r hen dy, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.
Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddilyth,
Ond dychwel wna'r
wennol yn ol i'w hanwyl nyth;
A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar
ein hynt,
Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
Chwerwed ef a chwerwo,
melus ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom
byth.
TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.
Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan
oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.
Yn araf i safle 'r gerbydres gerllaw,
Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y
braw,
Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus--ei
llygaid droi 'n syn,

Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hynny yn sibrwd
fel hyn, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau,
Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei
boddhau,
Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn
gwneyd
Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl
ddweyd, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd,
Er ennill ieuenctid i'w afael -
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;
Dymunai 'n ddiameu bob lles ar
fy nhaith,
Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd
mewn iaith, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan
loesion eu clwyf,
Yn nesaf dro'i oll, yn ddieffaith
Do, clywais hyawdledd--er teimlo ei
rym,

Mewn effaith ni lyn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys
yn llym, -
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."
Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y mor,
Yn chware a chreigiau peryglon;
O'm amgylch mae dynion a
wawdiant Dduw Ior,
Wyf finnau ddiferyn o'r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y
ffol,
Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol, -
"Ti wyddost beth
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 25
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.