Ceiriog | Page 4

John Ceiriog Hughes
yr haul yn
machlud
Y fodrwy briodasol
O weddi daer
Y baban diwrnod oed

Y fam ieuanc
Ceisiais drysor
Y fynwent yn y coed
Claddasom
di, Elen
Annie Lisle
Y defnyn cyntaf o eira
Cavour
Y milwr na

ddychwel
Garibaldi a charcharor Naples
Glogwyn anwyl
Ffarwel
iti, Gymru fad
Tros un o drumiau Berwyn
Dychweliad yr hen filwr

Trwy wledydd dwyreiniol
Y Garreg Wen
Tuag adre
Beibl fy
mam
Alun Mabon
RHAGYMADRODD.
Ar un o lethrau'r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd
ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a'i hiraeth am
fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mwg a thwrw Manceinion,
roddodd fod i'w gan pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.
Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn
Ceiriog, oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832.
Aeth i'r ysgol yn Nant y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y
Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua
Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i
Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru.
Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel
Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru.
Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o'i gan fuddugol,--"Myfanwy
Fychan,"--yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a'i gartref. Yn 1860
cyhoeddwyd ei "Oriau'r Hwyr;" daeth hwn ar unwaith yn un o'r llyfrau
mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad
Ceiriog. Yn 1862 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Bore," lle mae ei awen ar ei
thlysaf ac ar ei grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu.
Y mae dros chwe chant o'i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon
miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer llygad.
Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i
Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws
yn yr un flwyddyu. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei
febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a'r
rhan olaf ym mlaen Dyffryn yr Hafren.
Trwy'r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei galon,--

llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn hoff
o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol a'r
cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio'r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn allu
cenhedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac
ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y
mynyddoedd oedd.
Wrth drefnu'r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog,
gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad
ydyw hyn,--dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a'r tyner yn ei awen, ac
nid y digrif. I'r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o'i enaid, ac
ymarllwysiad teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.
Dymunwn ddiolch yn gynnes i'r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon
imi. Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o'r caneuon
sydd yn y gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn,
oni buasai fy mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y
ddwy gyfrol brydferth gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei
ofal, ganddynt hwy.
Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei
naturioldeb syml a'i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i'w
gan. Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog a rhai o'i
thannau. Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian man, a thra bo gwrid
mwyn yn hanner gyfaddef serch, ca'r galon ddynol fwynhad a nerth o
ganeuon Ceiriog.
"Alun Mabon" yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr
odlau; y mae bywyd y bugail yma yn ei bryder a'i fwynder. Ynddo
darlunia Ceiriog ei fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.
"Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn." Nid teulu
Ceiriog sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog,
ger Caersws, ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i
huno. Ar groes ei fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o'i waith ei hun, -
ER
COF AM
JOHN CEIRIOG HUGHES,
A ANWYD MEDI
25,
1832,
A FU FARW EBRILL 23,
1887.

Carodd eiriau cerddorol,--carodd feirdd,
Carodd fyw 'n naturiol;
Carodd gerdd yn angerddol,
Dyma 'i
fedd,--a dim lol.
OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen,
Mawrth 1, 1902.
NANT Y MYNYDD.
Nant y mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyu yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant.
Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.
Adar man y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn hedeg -
O na bawn fel deryn bach.
Mab y Mynydd ydwyf innau,
Oddicartref yn gwneyd can,
Ond mae'm calon yn y myuydd
Efo'r grug a'r adar
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 25
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.