Cartrefi Cymru | Page 6

Owen M. Edwards
am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau,--nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo."
Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i'r golwg pan oedd yn teithio rhan rosynaidd heulog ei llwybr, a'i hysbryd yn ysgafn a'i ffurfafen heb gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chan, a mawredd tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o'i hemynnau gellir dweyd y geiriau sydd ar ddiwedd ei llythyr, -
"Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i'r byd mawr a bery byth."
Ac wedi ofni grym pechod, wedi "cario corff o lygredd," wedi "wynebu'r afon donnog," aeth heibio i'r byd mawr a bery byth.
O'r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I'm cwestiwn parthed hyd y ffordd cawn amrywiol atebion,--pedair milldir a hanner ebai un, tair milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy filldir a hanner union oedd i Ddolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn, croesais afonig red dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref. Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau'n dringo bryn ac yn disgyn yn ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd cyfoethog y wlad, a'r haul yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, -
"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sel, Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mel; Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod, Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod."
Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a'm denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dwr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dwr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,--ni wiw i mi ddechre enwi'r cor,-- oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a wyr nad yn swn yr afon hon y canwyd gyntaf, -
"Ffrydiau tawel, byw rhedegog, O dan riniog ty fy Nuw, Sydd yn llanw, ac yn llifo O fendithion o bob rhyw; Dyfroedd gloew fel y grisial, I olchi'r euog, nerthu'r gwan, Ac a ganna'r Ethiop duaf Fel yr eira yn y man."
Ac ym miwsig yr afon, gyda'i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed geneth yn canu o lawenydd ei chalon, -
"Byw i weld yr Anweledig, Fu farw ac sydd eto'n fyw; Bythol, anwahanol undeb, A chymdeithas a fy Nuw."
Yn nes ymlaen y mae'r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd, yn disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,--weithiau yn y dyrysleoedd, fel pe mewn anobaith; weithiau'n llithro'n wyllt dros greigiau, fel pechadur afradlon ar ei yrfa; weithiau'n gorffwys mewn llyn tawel, dan wenu ar yr haul neu lechu'n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann Griffiths wedi ganu am droion yr yrfa,--Williams Pant y Celyn a'u darlunia hwy o'u canol, a David Charles Caerfyrddin o fryniau Caersalem,--yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw yn gwneyd iddi hi anghofio blinder ac ofnau'r daith. Ni sonia hi am demtasiynau, ond er mwyn cael canu am goncwest; ni chan am flinder, ond er mwyn cael canu am yr Hwn a'i cysurai, -
"Digon mewn llifeiriant dyfroedd, Digon yn y fflamau tan."
Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol. Daeth i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths a'i llaw ei hun, -
"Er mai cwbl croes i natur Yw fy llwybur yn y byd, Ei deithio wnaf, a hynny'n dawel, Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd; Wrth godi'r groes, ei chyfri'n goron, Mewn gorthrymderau llawen fyw, Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus, I ddinas gyfaneddol yw."
Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fynu'r bryn, a'r gwrychoedd o bobtu'n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth.
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 41
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.