Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau'r twynau'n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Eis trwy'r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig funudau gwelwn Ddolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae'r ty'n newydd, a golwg lan a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau,--yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol,--rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.
Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi'r ffrwd sy'n rhedeg o'r ffynnon,--dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a deugain Eseciel. Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y ty, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Eis trwy lidiart yr ardd, a phan oeddwn yn edmygu'r blodau, daeth hen wraig hardd, a'i gwyneb yn wenau i gyd, i'm croesawu.
"Dyma Ddolwar Fach, ynte?"
"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi'n dwad o bell, gen mod i mor hyf a gofyn?"
"Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?"
"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o ginio."
Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddwr oer. Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a'r hufen melyn yn felus arno. Lawer gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a'i hanner yn ddwfr a'i hufen wedi ei hel yn ofalus oddiarno, bum y'n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais yn Nolwar Fechan. Tra'r oeddym ni'n ysgwrsio, clywem droediad ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a chododd ei llais i alw, -
"Ann!"
"Ann," ebe finne, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?"
"O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni"
"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"
"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o'r hen deulu yn aros ychwaith."
Wedi i mi gael ysgwrs a'r wraig am amaethyddiaeth, ac a'r ferch am flodau'r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i'r ty. Y mae'n wr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawsder i ddysgu plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau. Ond ni chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai'n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un heb arfer dweyd y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhy emynyddes oreu'r byd.
Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau'r blodau y prydnawn hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr Mehefin ar bennau'r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni'r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o'u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn
"Disgleirio mae gogoniant Trindod Yn achubiaeth marwol ddyn."
Wedi'r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i'r eglwys dywell oer. Nid oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,--yn sydyn duodd yr awyr, ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai'r eglwys dywell yn oleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos, fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi rhyw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i'm cof o hyd, -
"Pan fo Sinai i gyd yn mygu, Sain yr udgorn uchaf radd, Caf fynd i wledda dros y terfyn Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."
Rhedais drwy'r gwlaw bras trysfawr i'r hen westy hwn, a dyma fi. Y mae amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy ol, ac mewn hwyl ysgwrsio a mi. Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,--yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng nghanol ysgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o'i le oherwydd yr
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.