gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dwr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod. Wedi gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen wr rhyngof a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau Maldwyn yn awr, ebe'r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynnau, dim hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen wr, "a dacw fur y fynwent lle mae'r hen Ann wedi ei chladdu." Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, ty tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Eis i mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,--"Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann. Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi marw'n saith ar hugain oed." Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,--nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref,--a bum yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisieu cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref,--plant tewion graenus fel hwy,--a chyda fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau.
Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,--saif ar fryncyn, nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr eglwys,--adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,--nid un fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni'r geiriau, -
ER COF AM ANN GRIFFITHS, DOLWAR FECHAN, GANWYD 1776. BU FARW 1806.
Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent! Ni chlywir swn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,--y mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn. Gorwedd y wlad fel breuddwyd angel oddiamgylch,--yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni disglaer haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent, gwelwn ddyffrynnoedd a choedydd, a'r mynyddoedd sy'n gwahanu Maldwyn a Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol haf. Ac i rai sy'n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy. Wedi ieuenctid nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu byw a geni, wedi tymhestloedd ac ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwydd ei wedd, wedi hyn oll, -
O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan, Yng nghanol mor o ryfeddodau, Heb waelod, terfyn byth, na glan: Mynediad helaeth mwy i bara O fewn trigfannau Tri yn Un. Dwfr i nofio heb fynd trwyddo, Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.
Byw heb wres, na haul yn taro, Byw heb ofni marw mwy; Pob rhyw alar wedi darfod, Dim ond canu am farwol glwy'; Nofio yn afon bur y bywyd, Bythol heddwch sanctaidd Dri, Dan dywyniadau digymylau Gwerthfawr angau Calfari.
Yn yr unig lythyr o'i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed, -
"ANWYL CHWAER,--'Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer, mae meddwl
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.