nofio heb fynd trwyddo, Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.
Byw heb wres, na haul yn taro, Byw heb ofni marw mwy; Pob rhyw
alar wedi darfod, Dim ond canu am farwol glwy'; Nofio yn afon bur y
bywyd, Bythol heddwch sanctaidd Dri, Dan dywyniadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfari.
Yn yr unig lythyr o'i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi
priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed, -
"ANWYL CHWAER,--'Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am
gael treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus,
gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn
y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd
nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer, mae meddwl
am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau,--nid marw ynddo ei hun,
ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo."
Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond
ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i'r golwg pan oedd yn teithio
rhan rosynaidd heulog ei llwybr, a'i hysbryd yn ysgafn a'i ffurfafen heb
gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chan, a mawredd
tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o'i hemynnau gellir dweyd y geiriau
sydd ar ddiwedd ei llythyr, -
"Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i'r byd
mawr a bery byth."
Ac wedi ofni grym pechod, wedi "cario corff o lygredd," wedi
"wynebu'r afon donnog," aeth heibio i'r byd mawr a bery byth.
O'r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I'm cwestiwn parthed hyd
y ffordd cawn amrywiol atebion,--pedair milldir a hanner ebai un, tair
milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy filldir a hanner
union oedd i Ddolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn, croesais afonig red
dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref.
Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau'n dringo bryn ac yn disgyn yn
ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd cyfoethog y wlad, a'r haul
yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, -
"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sel, Llifeirio mae ei
ffrwyth o laeth a mel; Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod, Gwlad
nefol yw, uwch law mynegi ei chlod."
Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a'm
denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth,
weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau
gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd.
Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros
y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y
dwr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair
a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dwr, a rhedyn tal yn edrych
ar eu prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,--ni wiw i
mi ddechre enwi'r cor,-- oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr
hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar
bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr
hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu
fynydd y byddai'n dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach
bellach oddiwrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a wyr nad yn swn
yr afon hon y canwyd gyntaf, -
"Ffrydiau tawel, byw rhedegog, O dan riniog ty fy Nuw, Sydd yn llanw,
ac yn llifo O fendithion o bob rhyw; Dyfroedd gloew fel y grisial, I
olchi'r euog, nerthu'r gwan, Ac a ganna'r Ethiop duaf Fel yr eira yn y
man."
Ac ym miwsig yr afon, gyda'i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed
geneth yn canu o lawenydd ei chalon, -
"Byw i weld yr Anweledig, Fu farw ac sydd eto'n fyw; Bythol,
anwahanol undeb, A chymdeithas a fy Nuw."
Yn nes ymlaen y mae'r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd,
yn disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,--weithiau yn y dyrysleoedd, fel pe
mewn anobaith; weithiau'n llithro'n wyllt dros greigiau, fel pechadur
afradlon ar ei yrfa; weithiau'n gorffwys mewn llyn tawel, dan wenu ar
yr haul neu lechu'n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann Griffiths wedi
ganu am droion yr yrfa,--Williams Pant y Celyn a'u darlunia hwy o'u
canol, a David Charles Caerfyrddin o fryniau Caersalem,--yr oedd ei
hiraeth cryf am Dduw yn gwneyd iddi hi anghofio blinder ac ofnau'r
daith. Ni sonia hi am demtasiynau, ond er mwyn cael canu am
goncwest; ni chan am flinder, ond er mwyn cael canu am yr Hwn a'i
cysurai, -
"Digon mewn llifeiriant dyfroedd, Digon yn y fflamau tan."
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.