Cartrefi Cymru | Page 5

Owen M. Edwards
trwy wlaw
taranau mor drwm,--er byfryted ydyw ar ol poethder llethol un o
ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r gwlaw taranau'n peidio, a'r coed yn
gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.
Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,-
-ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w
cherdded ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno
oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi.
Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau tyner, yn
gwneyd iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milldir
dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle
gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig.
Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd
gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn.
Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dwr Llanwddyn yn
ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod. Wedi gadael cysgod
coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen wr rhyngof
a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adre
o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid
rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau Maldwyn yn awr,
ebe'r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynnau, dim

hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar
fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y
coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen wr, "a dacw fur y fynwent lle
mae'r hen Ann wedi ei chladdu." Cerddais o amgylch y fynwent i ganol
y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf
man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop
pob peth, ty tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth,
a choed ddigon. Eis i mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri
gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,--"Ie, dacw gof-golofn yr hen
Ann. Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi
marw'n saith ar hugain oed." Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y
fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn
prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant
gwlad,--nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref,--a bum yn
holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru.
Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathraw yn medru
Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisieu cael y
fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint
oedd pris plant yn y pentref,--plant tewion graenus fel hwy,--a chyda
fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu
o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr
eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau.
Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,--saif ar
fryncyn, nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r
porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at
ddrws yr eglwys,--adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os
edrych y teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,--nid un fwy
na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac
arni'r geiriau, -
ER COF AM ANN GRIFFITHS, DOLWAR FECHAN, GANWYD
1776. BU FARW 1806.
Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar
ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent! Ni
chlywir swn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,--y mae
pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant
sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed
dwndwr yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn. Gorwedd y wlad

fel breuddwyd angel oddiamgylch,--yn dawel, dan ei blodau, ac yng
ngoleuni disglaer haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent,
gwelwn ddyffrynnoedd a choedydd, a'r mynyddoedd sy'n gwahanu
Maldwyn a Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol
haf. Ac i rai sy'n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy.
Wedi ieuenctid nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu byw a geni, wedi
tymhestloedd ac ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos
bywyd guddio hagrwydd ei wedd, wedi hyn oll, -
O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan,
Yng nghanol mor o ryfeddodau, Heb waelod, terfyn byth, na glan:
Mynediad helaeth mwy i bara O fewn trigfannau Tri yn Un. Dwfr i
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 42
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.