Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm
dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn
Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y cymylau
erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw
mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol. Daeth
i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths a'i
llaw ei hun, -
"Er mai cwbl croes i natur Yw fy llwybur yn y byd, Ei deithio wnaf, a
hynny'n dawel, Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd; Wrth godi'r
groes, ei chyfri'n goron, Mewn gorthrymderau llawen fyw, Ffordd yn
uniawn, er mor ddyrus, I ddinas gyfaneddol yw."
Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr
syth yn mynd i fynu'r bryn, a'r gwrychoedd o bobtu'n gwywo yng
ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y
llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd
pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd.
Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y mynydd.
Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a danadl
poethion a brigau'r twynau'n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau Maldwyn yn
hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen
Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei
phen. Eis trwy'r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig funudau gwelwn
Ddolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn
y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn.
Y mae'r ty'n newydd, a golwg lan a chysurus arno yng nghanol ei erddi
blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn
bychan, y mae'r adeiladau,--yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol,--rhai
ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded
gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd,
ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.
Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi'r ffrwd sy'n rhedeg o'r
ffynnon,--dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer
blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed
bennod a deugain Eseciel. Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at
y ty, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Eis trwy lidiart yr ardd, a
phan oeddwn yn edmygu'r blodau, daeth hen wraig hardd, a'i gwyneb
yn wenau i gyd, i'm croesawu.
"Dyma Ddolwar Fach, ynte?"
"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi'n dwad o bell, gen mod i
mor hyf a gofyn?"
"Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?"
"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd
tamed o ginio."
Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddwr oer.
Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a'r hufen melyn yn felus arno. Lawer
gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a'i hanner yn ddwfr a'i hufen wedi ei
hel yn ofalus oddiarno, bum y'n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais
yn Nolwar Fechan. Tra'r oeddym ni'n ysgwrsio, clywem droediad
ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy
oedd yno, a chododd ei llais i alw, -
"Ann!"
"Ann," ebe finne, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?"
"O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni"
"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"
"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o'r hen deulu yn aros ychwaith."
Wedi i mi gael ysgwrs a'r wraig am amaethyddiaeth, ac a'r ferch am
flodau'r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i'r ty. Y mae'n
wr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawsder i ddysgu
plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder
meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau. Ond ni
chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai'n ddrwgdybus arnaf,
fel pe bawn un heb arfer dweyd y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn
byw yn nhy emynyddes oreu'r byd.
Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau'r blodau y
prydnawn hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag
awyr Mehefin ar bennau'r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd
goleuni'r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o'u gwynder hwy na
phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn
"Disgleirio mae gogoniant Trindod Yn achubiaeth marwol ddyn."
Wedi'r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng
Ngwynfa, a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i'r eglwys
dywell oer. Nid oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.