[Project Gutenberg note: some of the spellings used by Mr Edwards in
this text differ from those in modern usage. Later editions of Cartrefi
Cymru did modify some of the spellings. However, the transcription
comes from the first edition and the text has been reproduced as it
appears in that edition.]
CARTREFI CYMRU
GAN OWEN M. EDWARDS.
CYNHWYSIAD.
I.--DOLWAR FECHAN,--CARTREF EMYNYDDES.
Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau
bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y
Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf.
Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805.
II.--TY COCH,--CARTREF PREGETHWR.
Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn
Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion.
Ganwyd Robert Thomas (Ap Vychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn
marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn
athraw duwinyddol.
III.--GERDDI BLUOG,--CARTREF BARDD.
Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a
rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno.
Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon
Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau.
Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym
Maentwrog.
IV.--PANT Y CELYN,--CARTREF PER GANIEDYDD.
Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y
Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno.
Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno
Ionawr 11, 1791.
V.--BRYN TYNORIAD,--CARTREF GWLADGARWR.
Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn
agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng
nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.
Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.
VI.--TREFECA,--CARTREF DIWYGIWR.
Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau
Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle wnawd gan
Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd.
Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.
VII.--CAER GAI.--CARTREF UCHELWYR.
Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn
Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy.
Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith.
Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland
Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a
Gwerfyl dipyn yn gynt.
VIII. --CEFN BRITH,--CARTREF MERTHYR.
Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn
Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf.
Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i
farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.
IX. --GLAS YNYS,--CARTREF BARDD CWSG.
Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n
gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r mor. O Harlech yr eir
yno gyntaf.
Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg.
Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn
Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys
Llanfair.
X. --TY'R FICER,--CARTREF BARDD MOES.
Y mae Ty'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn adfeiliedig
iawn.
Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen
Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.
XI. --Y GARREG WEN,--CARTREF CANWR.
Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorth Madog, y mae amaethdy'r
Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag
gwynt y mor.
Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr
Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.
XII. --TY DDEWI,--CARTREF SANT.
Saif Tyddewi ar lan mor gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar
draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf
Hwlffordd.
Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr
dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant. Yr
oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.
DOLWAR FECHAN.
Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri
yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng
Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre,--yn hon yr ymgyferfydd pob
pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr
ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o
ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw y mae'n ddigon
gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd
derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed
trwyth rhinweddol dail yr Ind. Trwy'r drws agored gwelaf goesau
meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy'r tair
ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i lawr trwy'r coedydd tewfrig
deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, ac hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc.
Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.