Yr Hwiangerddi | Page 2

Owen M. Edwards
ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,-- dyna faban ar ben gwir
Iwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim ddwed yr athronwyr am
addysg babanod os na fedrir ei brofi o'r hwiangerddi. Ynddynt hwy ceir
llais greddf mamau'r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o
afiaeth llawenydd iach.
A yw'r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiameu. Y mae
iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i'r plentyn yn hanes
dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei
hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio

hawddaf a chyrfymaf a sicraf yw hwn,--darllennwch ei cherddi hwian.
Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd
a dichwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu yr un
nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a'r llawenydd afteithus yn
ddiniwed, cewch genedl a'i llenyddiaeth yn ddiwylledig a'i hanes yn
glir oddiwrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at
felodi, wedi clywed y gair "pedoli" bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf
pennill,--
"Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed."
Disgwylir i mi ddweyd, mae'n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl
gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros
ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw y rhai hyn bron o
bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddiwrth rai ugeiniau o gyfeillion
caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru'r Plant. A chefais
un fantais fawr yng nghwrs fy addysg,--nid oes odid blentyn yng
Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.
Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr
Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am
gyhoeddi pethau mor blentynaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab
Ithel, oedd wedi cyhoeddi'r Gododin ac yn paratoi'r Annales Cambriae
y Brut y Tywysogion i'r wasg, i'w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn
oedd Ab Ithel; y mae rhai o wyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru,
yn ogystal a phlant ysgol, wedi'm helpu innau i wneyd y casgliad hwn.
Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn "Oriau'r Haf." Nid oes
ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi
hwian Morgannwg yn ei "History of Llangynwyd Parish" yn 1887. "Yn
ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng
Nghonwy, {0a} a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o
drefniad Mr. Harry Evans ym Merthyr Tydfil. {0b}
Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw fod yr hen

hwiangerddi swynol hyn i'w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei
hysgolion.
OWEN M. EDWARDS.
I. BACHGEN.
Y Bachgen boch-goch,
A'r bochau brechdan,
A'r bais dew,--
O ble doist ti?
II. YR EBOL MELYN.
Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair ced,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milldir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.
III. GYRRU I GAER.
Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru,
gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnodie.
IV. I'R FFAIR.
Ar garlam, ar garlam,
I ffair Abergele;
Ar ffrwst, ar ffrwst,
I ffair
Lanrwst.
V. DAU GI BACH.
Dau gi bach yn mynd i'r coed,
Dan droi'u fferrau, dan droi'u troed;


Dau gi bach yn dyfod adre,
Blawd ac eisin hyd eu coese.
VI. CERDDED.
Dandi di, dandi do,
Welwch chwi 'i sgidie newydd o?
Ar i fyny, ar i
wared,
Bydd y bachgen bach yn cerdded.
VII., VIII. Y CEFFYL BACH.
Ymlaen, geffyl bach,
I'n cario ni'n dau
Dros y mynydd
I hela cnau.
Ymlaen, geffyl bach,
I'n cario ni'n tri
Dros y mynydd
I hela cnu.
IX. SION A SIAN.
Sion a Sian, oddeutu'r tan,
Yn bwyta blawd ac eisin man.
X., XI. MYND I LUNDAIN.
Beti bach a finnau
Yn mynd i Lundain G'lanmai;
Os na chawn ni'r
ffordd yn rhydd,
Mi neidiwn dros y cloddiau.
Beti bach a finne,
Yn mynd i Lundain Glame;
Mae dwr y mor yn
oer y nos,
Gwell inni aros gartre.
XII. GWLAD BRAF.
Lodes ei mam, a lodes ei thad,
A fentri di gyda fi allan o'r wlad,
Lle
mae gwin yn troi melinau,
A chan punt am gysgu'r borau?

XIII. CYSUR LLUNDAIN.
Mi af i Lundain Glamai
Os byddai byw ac iach,
Ni 'rosa i ddim yng Nghymru
I dorri 'nghalon bach;
Mae digon o arian yn Llundain,
A swper gyda'r nos,
A mynd i 'ngwely'n gynnar,
A chodi wyth o'r gloch.
XIV. LLONG YN MYND.
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r capten ar y bwrdd.
XV. DAFAD WEN. {14a}
Chwe dafad gorniog,
A chwe nod arni, {14b}
Ac ar y bryniau garw,
'Roedd rheiny i gyd yn pori;
Dafad wen, wen, wen,
Ie benwen, benwen, benwen;
Ystlys hir a chynffon wen,
Wen, wen.
XVI. IAR FACH DLOS.
Iar fach dlos
Yw fy iar fach i;
Pinc a melyn,
A choch a du.

XVII.
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 14
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.