Yr Hwiangerddi | Page 7

Owen M. Edwards
mochyn;?A dau droed fel gwadn arad,?Fel dyllhuan mae hi'n siarad.
CLXXVII. DAU DDEWR.
Dau lanc ifanc yn mynd i garu,?Ar noswaith dywell fel y fagddu;?Swn cacynen yn y rhedyn?A'u trodd nhw adre'n fawr eu dychryn.
CLXXVIII. LLANC.
Mi briodaf heddyw yn ddi-nam,?Heb ddweyd un gair wrth nhad na mam.
CLXXIX. YMFFROST.
Chwarelwr {67} oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;?Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;?Chwarelwr ydyw'r baban
Sy'n cysgu yn ei gryd,?Ond tydi o'n beth rhyfedd
Ein bod ni'n chwarelwyr i gyd?
CLXXX. Y RHYBELWR BACH. {68}
Rhybelwr bychan ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,?Mi allaf drin y cerrig
Yn well na neb o'r wlad;?'Rwy'n medru naddu Princes,
Y Squares, a'r Counties bach,?Cyn hir caf finnau fargen,
Os byddaf byw ac iach.
CLXXXI. LLIFIO.
Llifio, llifio, llifio'n dynn,?Grot y dydd y flwyddyn hyn;?Os na lifiwn ni yn glau,?'Nillwn ni ddim grot yn dau.
CLXXXII. GOLCHI LLESTRI.
Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi,?Dwr ar y tan i olchi'r llestri.
CLXXXIII. CAP.
Morus y gwynt,
Ac Ifan y glaw,?Daflodd fy nghap
I ganol y baw.
CLXXXIV. CLOCS.
Mae gen i bar o glocs,
A rheini'n bar go dda,?Fe barant dros y gaea,
A thipyn bach yr ha;?Os can nhw wadnau newydd,
Fe barant dipyn hwy;?A saith a dime'r glocsen,
A phymtheg am y ddwy.
CLXXXV. GLAW.
Glaw, glaw, cerdda draw;?Haul, haul, tywynna.
CLXXXVI. MERCHED DOL 'R ONNEN.
Mae'n bwrw glaw allan,
Mae'n deg yn y ty,?A merched Dol 'r Onnen
Yn cribo'r gwlan du.
CLXXXVII. LLIW'R GASEG.
Caseg winnau, coesau gwynion,?Groenwen denau, garnau duon;?Garnau duon, groenwen denau,?Coesau gwynion, caseg winnau.
CLXXXVIII. BERWI POTEN.
Hei, ding-a-ding, diri,?Mae poten yn berwi,?Shini a Shani yn gweithio tan dani;?Shani'n ei phuro a phupur a fflwr,?Ychydig o laeth, a llawer o ddwr.
CLXXXIX. WRTH Y TAN.
Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi,?Dwr ar y tan i olchi'r llestri;?Crafwch y crochan gael creifion i'r ci,
A hefyd gwnewch gofio?Rhoi llaeth i'r gath ddu.
CXC. PAWB WRTHI.
Y ci mawr yn pobi,?Y ci bach yn corddi,?A'r gath ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lan;?Y wraig yn y popty?Yn gwylio'r bara'n crasu,?A'r llygod yn rhostio
Y cig wrth y tan.
CXCI., CXCII. TE A SIWGR GWYN.
Hen ferched bach y pentre,?Yn gwisgo capie lasie,
Yfed te a siwgr gwyn,?A chadw dim i'r llancie.
Bara a llaeth i'r llancie,?Ceirch i'r hen geffyle,
Cic yn ol, a chic ymlaen,?A dim byd i'r genod.
CXCIII. SI SO.
Si so, jac y do,?Yn gwneyd ei nyth drwy dyllu'r to,?Yn gwerthu'r mawn a phrynnu'r glo,?Yn lladd y fuwch a blino'r llo,?Yn cuddio'r arian yn y gro,?A mynd i'r Werddon i roi tro,?Si so, jac y do.
CXCIV. I'R SIOP.
Mae gen i ebol melyn
Yn codi'n bedair oed,?A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;?I'r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach?O de a siwgr candi
I John a Mari fach.
CXCV. CADW CATH DDU.
Mae gen i gath ddu,?Fu erioed ei bath hi,
Hi gurith y clagwydd,?Hi dynnith ei blu;?Mae ganddi winedd a barf,?A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod?Yn lluoedd o'r ardd;?Daw eilwaith i'r ty,?Hi gurith y ci,--
Mi rown i chwi gyngor?I gadw cath ddu.
CXCVI. NEWID BYD.
Ar ol bod yn ferch ifanc,
A gwisgo fy ffrog wen,?A'm gwallt i wedi ei blethu
Fel coron ar fy mhen;?A'm sgidiau wedi eu polsio,
A'r rheiny'n cau yn glos,--?Ar ol i mi briodi
Rhaid i mi wisgo clocs.
CXCVII. SIOM.
'Rown i'n meddwl, ond priodi,?Na chawn i ddim ond dawnsio a chanu;?Ond y peth a ges i wedi priodi,?Oedd siglo'r cryd a suo'r babi.
CXCVIII. RHY WYNION.
Mae mam ynghyfraith, hwnt i'r afon,?Yn gweld fy nillad yn rhy wynion;?Mae hi'n meddwl yn ei chalon?Mai 'mab hi sy'n prynnu'r sebon.
CXCIX. DIM GWAITH.
Ysgafn boced, dillad llwyd,?Mawr drugaredd yw cael bwyd;?Mynd o gwmpas, troi o gwmpas,
Ar hyd y fro;?Ymofyn gwaith, dim gwaith,
Trwm yw'r tro.
CC. PWY FU FARW?
Pwy fu farw??"Sion Ben Tarw."?Pwy geiff y gwpan??"Sion Ben Tympan."?Pwy geiff y llwy??"Pobol y plwy."
CCI. P'LE MAE DY FAM?
Titw bytaten, i ble'r aeth dy fam??Hi aeth i lygota a chafodd beth cam;?Gwraig y ty nesaf a'i triniodd hi'n frwnt,?Hi gurodd ei dannedd yng nghaead y stwnt.
CCII. DAU ROBIN.
Crio, crio, crio,
Mae Robin ni yn groch;?Canu, canu, canu,
O hyd, mae Robin goch.
CCIII., CCIV. SION.
Sion i fyny, Sion i wared,?Sion i garthu tan y gwartheg;?Sion a wyr yn well na'r merched?Pa sawl torth a wneir o beced.
Fe geir pedair torth o phioled,?Fe geir wyth o hanner peced;?Ac os bydd y wraig yn hyswi,?Fe geir teisen heblaw hynny.
CCV. ABER GWESYN.
Abergwesyn, cocyn coch,
Mae cloch yn Abertawe;?Mae eidion coch yng nghoed Plas Gwent,
A pharlament yn Llunden.
CCVI. CORWEN.
Neidiodd llyffant ar ei naid
O Lansantffraid i Lunden,?Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar ganllaw pont Llangollen;?Ond yn lle disgynnedd y drydedd waith
Ond ynghanol caerau Corwen.
CCVII. DYFED.
Dincyll, doncell, yn y Bridell;?Tair cloch arian yng Nghilgeran;?Uch ac och yn Llandudoch;?Llefain a gwaeddi yn Aberteifi;?Llaeth a chwrw yn Eglwys Wrw;?Cario ceffyl pren trwy Eglwys Wen.
CCVIII. RHUDDLAN.
Y cobler coch o Ruddlan
A aeth i foddi cath,?Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;?Y cwd aeth hefo'r afon,
Y gath a ddaeth i'r lan,?Ow'r cobler coch o Ruddlan,
On'd oedd o'n foddwr gwan?
CCIX., CCX. AMEN.
"John, John, gymri di jin?"?"Cymra, cymra, os ca i o am ddim;"?"Amen," meddai'r ffon,?"Dwgyd triswllt o siop John."
Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu,?Lladron yn dwad dan weu hosanau,?Taflu y 'sanau dros ben
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.