Yr Hwiangerddi | Page 6

Owen M. Edwards
a thorri 'i galon
Ar ol y ferch fach lan;?Ei goesau fel y pibau,
A'i freichiau fel y brwyn,?Ei ben e fel pytaten,
A hanner llath o drwyn.
CXXXVIII. JOHN.
Ar y ffordd wrth fynd i Lerpwl,?Gwelais Iohn ar ben y cwpwr;?Gofynnnis iddo beth oedd o'n wneyd;?"Bwyta siwgwr, paid a deyd."
CXXXIX. BREUDDWYD.
Gwelais neithiwr, drwy fy hun,?Lanciau Llangwm bod yg un;?Rhai mewn uwd, a rhai mewn llymru,?A rhai mewn buddai, wedi boddi.
CXL. PEDOLI, PEDINC.
Pedoli, pedoli, pe-dinc,
Mae'n rhaid i ni bedoli?Tae e'n costio i ni bunt;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,?Pedol yn eise o dan y droed ase,--
Bi-dinc, bi-dinc, bi-dinc.
CXLI. PEDOLI, PEDROT.
Pedoli, pedoli, pedoli, pe-drot,
Mae'n rhaid i ni bedoli?Tae e'n costio i ni rot;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,?Pedol yn eise o dan y droed ase,--
Bi-drot, bi-drot, bi-drot.
CXLII. PEDOLI'R CEFFYL GWYN.
Pedoli, pedoli, pe-din,?Pedoli'r ceffyl gwyn;?Pedoli, pedoli, pe-doc,?Pedoli'r ebol broc.
CXLIII. ROBIN DIR-RIP.
Robin dir-rip,?A'i geffyl a'i chwip;?A'i gap yn ei law,?Yn rhedeg trwy'r baw.
CXLIV. GWCW!
"Gw-Cw!" medd y gog,?Ar y gangen gonglog;?"Gw-cw!" medd y llall,?Ar y gangen arall.
CXLV. GARDYSON.
Shoni moni, coesau meinion,?Cwtws y gath yu lle gardyson.
CXLVI. ESGIDIAU.
Lle mae 'i sgidie?
Pwy sgidie??Sgidie John.
Pwy John??John diti.
Pwy diti??Diti 'i fam.
Pwy fam??I fam e'.
Pwy e'??E' 'i hunan.
CXLVII. ROBIN GOCH.
Robin goch ar ben y rhiniog,?A'i ddwy aden yn anwydog;?Ac yn dwedyd yn ysmala,--?"Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira."
CXLVIII. CHWARE.
Canwch y gloch!
(Tynnu yn un o'r cudynau gwallt)?Curwch y drws!
(Taro'r talcen a'r bys)?Codwch y glicied!
(Gwasgu blaen y trwyn i fyny)?Dowch i mewn, dowch i mewn, dowch i mewn!
(Rhoi'r bys ar y wefus).
CXLIX. CARIAD.
Mae gen i gariad glan, glan,?Gwrid coch a dannedd man;?Ei dwy ael fel ede sidan,?Gwallt ei phen fel gwiail arian.
CL. DEWIS OFER.
Mynd i'r ardd i dorri pwysi,?Gwrthod lafant, gwrthod lili;?Pasio'r pinc a'r rhosod cochion,?Dewis pwysi o ddanadl poethion.
CLI. LADI FACH BENFELEN.
Ladi bach benfelen,
Yn byw ar ben y graig,?Mi bobith ac mi olchith,
Gwnaiff imi burion gwraig;?Mi startsith ac mi smwddith,
Gwnaiff imi burion bwyd,?Fe wnaiff i'r haul dywynnu
Ar ben y Garreg Lwyd.
CLII. CYDYMDEIMLAD.
Trueni mawr oedd gweled?Y merlyn bach diniwed,?Ac arno fe y chwys yn drwyth,?Wrth lusgo llwyth o ddefed.
CLIII. APEL.
Glaw bach, cerr ffordd draw,?A gad i'r haul ddod yma.
CLIV. SAETHU LLONGAU.
Welsoch chwi wynt, welsoch chwi law??Welsoch chwi dderyn bach ffordd draw??Welsoch chwi ddyn a photasen ledr,?Yn saethu llongau brenin Lloegr?
CLV. CEINIOG I MI.
Si so, si so,?Deryn bach ar ben y to;
Ceiniog i ti,?Ceiniog i mi,?A cheiniog i'r iar am ddodwy,?A cheiniog i'r ceiliog am ganu.
CLVI. Y TYWYDD.
Bys i fyny, teg yfory;?Bys i lawr, glaw mawr.
CLVII., CLVIII. CALANMAI.
Daw Clame, daw Clame,
Daw dail ar bob twyn,--?Daw meistr a meistres
I edrych yn fwyn.
A minne, 'rwy'n coelio,
Yn hela i'm co,?I'r gunog laeth enwyn
Fod ganwaith dan glo.
CLIX. CATH DDU.
Amen, person pren,?Cath ddu a chynffon wen.
CLX. MYND A DOD.
Hei ding, diri diri dywn,?Gyrru'r gwyddau bach i'r cawn;?Dwad 'nol yn hwyr brynhawn,?A'u crombilau bach yn llawn.
CLXI. GYRU GWYDDAU.
Hen wraig bach yn gyrru gwyddau,
Ar hyd y nos;?O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos;?Ac yn dwedyd wrth y llanciau,?"Gyrrwch chwi, mi ddaliaf finnau,"?O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos.
CLXII. BWRW EIRA.
Hen wraig yn pluo gwyddau,?Daw yn fuan ddyddiau'r gwyliau.
CLXIII. BETH SYDD GENNYF.
Mae gen i iar, mae gen i geiliog,?Mae gen i gywen felen gopog;?Mae gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,?Mae gen i gyrnen fawr o wenith.
CLXIV. TAIR GWYDD.
Gwydd o flaen gwydd,?Gwydd ar ol gwydd,?A rhwng pob dwy wydd, gwydd;?Sawl gwydd oedd yno?
CLXV., CLXVI. CARIAD Y MELINYDD.
Mi af i'r eglwys Ddywsul nesa,?Yn fy sidan at fy sodla;?Dwed y merched wrth eu gilydd,--?"Dacw gariad Wil Felinydd."?Os Wil Felinydd wyf yn garu,?Rhoddaf bupur iddo falu;?Llefrith gwyn i yrru'r felin,?A chocos arian ar yr olwyn.
CLXVII. CARIAD ARALL.
Mae'n dda gen i fuwch,
Mae'n dda gen i oen,?Mae'n dda gen i geffyl
Yn llydan ei ffroen;?Mae'n dda gen i 'r adar
Sy'n canu yn y llwyn.?Mae'n dda gen i fachgen
A chrwb ar ei drwyn;?A thipyn bach bach o ol y frech wen,?Yn gwisgo het befer ar ochor ei ben.
CLXVIII. GWRAIG.
Mi fynnai wraig, mi wranta,?Caiff godi'r bore'n nghynta;?Troed yn ol a throed ymlaen,?A throed i gicio'r pentan.
CLXIX., CLXX. PRY BACH. {63}
Pry bach yn mynd i'r coed,?Dan droi 'i ferrau, dan droi 'i droed;?Dwad adre yn y bore,?Wedi colli un o'i sgidie.
Pry bach yn edrych am dwll,?Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,?Pry bach yn edrych am dwll,?A DYMA dwll, dwll, dwll, dwll, dwll.
CLXXI. Y BYSEDD.
Bowden,?Gwas y Fowden,?Libar labar,?Gwas y stabal,?Bys bach, druan gwr,?Dorrodd 'i ben wrth gario dwr
I mam i dylino.
CLXXII. CHWARE'R BYSEDD.
"I'r coed," medde Modryb y Mawd,?"I be?" medde Bys yr Uwd;?"I ladrata," medde Hirfys;?"Beth os dalian ni?" medde'r Canol-fys;?"Dengwn, dengwn, rhag iddo'n dal ni,"
Medde'r Bys Bach.
CLXXIII. BWGAN.
Bwgan bo lol, a thwll yn 'i fol,?Digon o le i geffyl a throl.
CLXXIV. YR ENETH BENFELEN.
Mae geneth deg ben-felen
Yn byw ym Mhen y Graig,?Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi'n wraig;?Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,?Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.
CLXXV. Y WYLAN.
Y wylan fach adnebydd?Pan fo'n gyfnewid tywydd;?Hi hed yn deg, ar aden wen,?O'r mor i ben ymynydd.
CLXXVI. FY NGHARIAD.
Dacw 'nghariad ar y dyffryn,?Llygaid hwch a dannedd
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.