esgyn Ei sedd,?Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd,?Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,?Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.
Rho heibio 'nawr, f'awen, cyn gorffen dy gan,?Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lan;?Nid da cynnyg nofio--'rwyt eto'n rhy wan--?Mewn mor o ryfeddod, heb waelod na glan.
I erfyn maddeuant, plyg 'nawr wrth Ei draed,?Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed;?Cei ddianc ar fyrder o'th garchar o gnawd,?I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd.
Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len;?Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben;?Pan welir y ddaear yn wenfflam o dan,?Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gan.
AR FARWOLAETH MABAN.
Daeth yma i'r byd i weld ein gwae,
Lle mae gorthrymder garw;?Ond trodd ei egwein lygaid draw,
Gan godi 'i law a marw.
Er dod am dro i'n daear ni
I brofi'r cwpan chwerw;?Ni fynnai aros is y nen,
Trodd draw ei ben i farw.
Dros ennyd ferr fe rodd ei glust
I wrando'n trist riddfannau;?Ond buan, buan, blino wnaeth,
A hedodd ymaith adre'.
Ni chawn ei weled yma mwy
Dan unrhyw glwy'n galaru;?Mae wrth ei fodd ar Seion fryn,
A'i dannau'n dynn yn canu,
Ni welir deigryn ar ei rudd,
Na'i wedd yn brudd wylofus;?Ni chlywir mwy o'i enau ef
Un egwan lef gwynfannus.
Ni chaiff y fam byth, mae'n ddilys,
Waith sychu 'i chwys a'i ddagrau,?Na chwaith ei gynnal, pan yn wan,
I gwynfan yn ei breichiau.
Ni rydd un gelyn iddo glwy,
Nis gellir mwy ei faglu;?Ni welir ef yn dewis rhan
Gyda'r annuwiol deulu.
Ni chaiff y tad na'r fam byth mwy
Boen trwy ei weld yn pechu:?Nid ofnant iddo yn ei oes
Ddwyn croes ar achos Iesu.
Fe darddodd ffynnon ar y bryn
I'w gannu'n wyn, a chymhwys?I lanw lle yn mhlith y llu
Sy'n canu ym mharadwys.
Diangodd draw i wlad yr hedd
O gyrraedd pob rhyw ddrygfyd,?Ac uno wnaeth a'r nefol lu
I ganu fry mewn gwynfyd.
Mewn teulu duwiol yn y byd,
Tra hyfryd y gyfeillach;?Ond fry ymhlith y nefol hil
Y bydd yn fil melusach.
Heb unrhyw boen o dan y fron,
Mae 'nawr yn llon a dedwydd:?A'r pur orfoledd yno sy
A bery yn dragywydd.
Er rhoi ei gorff yng ngwaelod bedd
I orwedd a malurio,?Daw bore hyfryd yn y man
Y cwyd i'r lan oddiyno.
Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
Tudraw i'r bedd yn dawel;?Ac uno i ganu yn ddilyth,
Heb achos byth ymadael.
Y CRISTION YN HWYLIO I FOR GWYNFYD.
Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,?Yn troi yn dra medrus ei lyw a'i ddeheulaw,?Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion?I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,--?Mae'r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,?Gan hwylio yn dawel i for bythol burdeb.?Pan ddel y gorchymyn mae'n lledu ei hwyliau,?Heb ofni'r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;?Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae'n canu,--?"O'm golwg yn gyflym mae'r byd yn diflannu,?Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,?Tawelu mae'r gwyntoedd, llonyddu mae'r tonnau,?Mae'r heulwen yn gwenu, a'r wybren yn siriol,?Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol."
CWYN A CHYSUR HENAINT.
Ymgiliodd y gaeaf, mae'r gwanwyn yn gwenu,?Mae'r oenig yn neidio, a'r durtur yn canu;?Mae'r coedydd, a'r dolydd, a'r gerddi'n blodeuo;?A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Mae'r i'enctid o'm hamgylch yn heinyf a chryfion,?Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon,?Yn siriol gydrodio'n finteioedd diddanus,?A minnau fy hunan yn llesg a methiannus.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Bu amser, 'rwy'n cofio, pan gynt 'roeddwn innau?Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau,?A'm dwyfron yn llawen, a'm can yn soniarus;?Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus.
Mae f'einoes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,?O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd;?A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.?Mae'm calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu,?A'r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu;?Swn isel, wrth falu, wna'r felin fethedig,?Ychydig yw'r meini, ac oll yn sigledig.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,?A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd;?Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,?A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,?A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn;?Mae chwant wedi pallu, 'does dim rydd ddiddanwch,?Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.
Y cawg aur a'r piser yn fuan a ddryllir,?Y llinyn ariannaidd a'r olwyn a dorrir;?Ychydig sy'n aros o flodau'r pren almon;?Dadfeilio mae'r babell, llewygu mae'r galon.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,?Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddnod.
Hosanna!--'Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,?Mae'n addfed o'r diwedd i fyned i'w feddrod;?Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel,?Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel.
Ac yna, heb lygredd, caiff
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.