gan greulawn dyngu'n ffol,?Na chai hi byth ddychwelyd yno'n ol.
Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer,?Ei baban gaed yn farw ac yn oer;?A'i ddagrau'n ia tryloew ar ei rudd,?A'i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd.
Y fam, yn awr o'i phwyll, yn llwyd a gwan,?A grwydrai'r dydd yn brudd o fan i fan;?A'r nos, mewn lludded dost, eisteddai'n syn?Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn:?Ing ar ol ing drywanai 'i mynwes brudd,?Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd.
Yn glaf neu iach, ai allan ar bob hin,?Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin,?Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,--?"Fy chwaer yw hon, a daw i wylio'm bedd."?Ni soniai byth am gar, na mam, na thad,?Na'i hudwr cas, nac am ei baban mad;?Ymddiddan wnai, bob dydd, a'r gorsen grin,?Heb deimlo dwys effeithiau 'i chystudd blin.?Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen,?Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen.?O'i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed,?Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed;?A'i henaid ffodd o'r maglau oll yn rhydd,?Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd.
Ond wrth gyfleu ei chorff i'w wely pridd,?Ei thad, dan guro'i fron, felldig ai'r dydd?Y gwelodd hi o'i dy yn gorfod ffoi,?Mewn cyflwr gwan, heb wybod p'le i droi:?A'i hudwr tlawd a welai, er ei fraw,?Ddialydd llym a'i gleddyf yn ei law;?A'i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lan,?A'i wae'n seliedig mewn llyth'renau tan.
DAROSTYNGIAD A DERCHAFIAD CRIST.
I Gu Geidwad gwael bechadur,
Gyda gwylder, seiniwn gan;?Ac enynner yn ein mynwes
Fywiol fflam o nefol dan:?Canwn am Ei ddarostyngiad,
Am Ei gur a'i gariad Ef,?Gan adseinio tonau mwynion
Telynorion llys y nef.
Wrth weld adyn diymgeledd,
Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed,?Dan ei faich, yn archolledig
O'i ben ysig hyd Ei draed;?Heb un cyfaill i dosturio,
Heb un balm i'w galon friw,?Codai Iesu lef drugarog
Am i'r euog gwael gael byw.
Gadael uchel sedd gogoniant,
Gadael moliant dirif lu,?Gadael hardd frenhinol goron
Wnaeth ein tirion Iesu cu;?Disgyn wnaeth ar edyn cariad,
Achub oedd Ei fwriad E',?Daeth o'i fodd i gystudd chweiw,
Daeth i farw yn ein lle.
Yn y preseb, pan yn faban,
Llesg ac egwan gwelwyd Ef:?Isel annedd, gwael ymgeledd,
Gadd Etifedd mawr y nef:?Eto seren gain y dwyrain,
Wenai ar ei lety gwael;?Thus, a myrr, ac aur-anrhegion,
Wrth Ei draed ro'i'r doethion hael.
Dirif luaws ser y bore,
Drwy'r wybrennau seinient gan,?Gan fwyn ateb cyngan nefol
Y waredol dyrfa lan:?Gras, cyfiawnder, a gwirionedd,
A thrugaredd yn gytun,?Wrth yr orsedd yn hoff wenu
Am gael modd i godi dyn.
Cilio wnaeth y tew gysgodau,
Gwawriodd hyfryd oleu ddydd;?Nid oes eisiau gwaedlyd ebyrth,
Thuser aur, nac allor bridd:?Daeth y Gogoneddus Sylwedd,
Daeth yr addawedig Had,?Cododd disglaer Haul Cyfiawnder,
Sain y durtur sydd trwy'r wlad
Mwy ni cheisir urddau Aaron,
Olew per, na brasder wyn;?Gwisgo'r Urim ar ei ddwyfron
Yn y nef mae'r Iesu mwyn;?Wrth yr allor aur mae'n gweini,
Clywir adsain clychau hedd;?Yn Ei law mae'r aur deyrnwialen,
Wrth Ei glun mae'r dwyfol gledd.
Hoeliodd ddeddf yr ordinhadau,
Oedd i'n herbyn, wrth Ei groes,?Gan yspeilio'r awdurdodau
Pan yn dioddef angau loes;?Cododd faner wen trugaredd,
Drylliodd gedyrn byrth y bedd,?Seiniodd jubil lawn i'r caethion,
Ac arlwy odd radlawn wledd.
Agoriadau y llywodraeth
Wisgwyd ar Ei ysgwydd Ef,?Rhoddwyd iddo bob awdurdod
Ar y ddaer ac yn y nef;?Marchog mae yng ngherbyd cariad,
Troi o'i gylch mae engyl nef;?Sigla cedyrn byrth y fagddu
Hyd eu sail wrth rym ei lef.
Croesaw iddo wisgo'r goron,
Aed Ei enw dros y byd;?Plyged pawb i'w fwyn awdurdod
Am Ei gymod Ef inewn pryd;?Boed i'r euog tlawd ymguddio
Dan Ei dawel gysgod Ef,?Boed i'r gwannaf ffyddiog bwyso
Ar Ei fraich alluog gref.
Mewn gogoniant dirfawr eto,
Heb y groes a'r goron ddrain,?Disgyn gyda myrdd myrddiynau,
Llawen floedd, ac uchel sain;?Cwyd Ei orsedd, egyr lyfrau,
Sigla seiliau dyfna'r bedd,?Lleda'r wyntyll, hwylia'r clorian,
Ysgwyd fry Ei farnol gledd.
Pan y ffy y nefoedd heibio,
Pan y byddo'r ddaer yn dan,?A'r holl anwir fyd mewn cyffro,
A llu'r saint yn seinio can;?Pan y todda'r euog ymaith
Dan lewygon bythol fraw,?Boed i ni gael tawel orffwys
Ar ei dirion ddeheu law.
BUDDUGOLIAETHAU YR EFENGYL YN Y MIL BLYNYDDOEDD.
[Dan Haul Y Prydnawn. (Bythynod yn Llanbrynmair): sr41.jpg]
Efengyl oludog! Angyles trugaredd,
Mae cyrrau y ddaear am weled dy wedd;?Ym mantell dy harddwch, ar gerbyd dy haeledd,
Dos rhagot nes llenwi y byd a dy hedd;?Mae gennyt ti'n barod wledd lawn i'r newynog,
A chymod i'r euog, a hardd-wisg i'r noeth,?A thrysor i'w rannu rhwng tlodion anghenog,
Sydd fyrdd mwy ei werth na mil myrdd o aur coeth.
Mae'r byd yn ymysgwyd o gwsg mil o oesau,
Gan dditif dylwythau cei roesaw i'w mysg,?A gwastad balmantwyd ffyrdd rhyddion i'th gerbyd
Gan feibion celfyddyd, masnachaeth, a dysg:?Peiriannau tan cariad i droi dy olwynion
Yw'r llon Gymdeithasau addurnant ein gwlad;?A chwareu diwy'r nef mae holl dannau gorfoledd,
Fod gobaith i ddyn gael ymgeledd yn rhad.
Cyhoeddwyd o'r cynfyd gan lais ysbrydoliaeth
Am bur effeithiolaeth diatal dy ras,--?Llwyr ofer i'r bobloedd i'th erbyn derfysgu,
I lengoedd y fagddu amlygu eu cas:?I'th ddilyn wrth d'alwad cwyd torf o genhadon
A'u calon yn fflamio dan fedydd o dan;?Ymdaenu trwy wersyll y gelyn mae'r cyffro,
Mae'r delwau'n malurio yn fawrion a man.
Mae'th weision yn barod i gludo'th drysorau
Trwy'r 'stormydd, tros donnau trochionogy y mor;?Wynebant yn llon ar dros
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.