Gwaith Samuel Roberts | Page 7

Samuel Roberts
heb len;?O'r braidd y caf garreg i gynnal fy mhen.
Mewn ing rhaid im' farw, nis gallaf fyw'n hwy,?Mae'r holl gorff yn glwyfus, a'r galon yn ddwy;?O na chawswn drengu yn mynwes fy ngwlad,?Fy mhlant a fy mhriod, fy mam a fy nhad.
Wrth farw, fy ngweddi daer olaf a fydd,?I'r caeth o'i gadwynau gael myned yn rhydd:?Pa Gristion, heb deimlo ei galon mewn aeth,?All gofio du lafur ei frodyr sy'n gaeth?
O Brydain brydweddol! "Arglwyddes y donn,"?Na ad i un gaeth-long ymrwygo drwy hon;?Cwyd Faner wen Rhyddid, nes gwawrio y dydd?I'r olaf gael dianc o'i gadwyn yn rhydd.
Y CREULONDEB O FFLANGELLU BENYWOD.
A ysgrifenwyd wrth ddarllen penderfyniad barbaraidd blaenoriaid dideimlad planfeydd Jamaica, i ddinoethi a fflangellu gwyryfon a gwragedd.
Pe bae gennyt deimlad, pe byddi tyn Gristion,?Fe wridai dy wyneb, fe waedai dy galon,?Weld menyw brydweddol wrth gadwyn yn crynnu,?Dan fflangell anifail yn griddfan a gwaedu;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;?Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
Dwys glwyfir, bob ergyd, ei chorff teg tyneraidd,?Ond dyfnach y clwyfir ei gwylder benywaidd;?Heblaw ei harcholli o'r ddaear i'r ddwyfron,?Mae'r fflangell mewn ail fodd yn cyrraedd ei chalon;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;?Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
Pan oeddit yn faban hi'th wasgai i'w mynwes,?A breichiau o'th amgylch, hi'th gadwai yn gynnes;?Rho'i gusan, dan wenu, i'th gadw'n ddiddanus,?Ac ar ei bron dyner hi'th siai i orffwys:
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;?Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
Trywenid ei mynwes gan ingawl ddwys alaeth,?A gwewyr dirboenus, cyn dyfod yn famaeth:?A chreulawn ei gwasgu mewn cyfyng amgylchiad,?Sy'n gofyn ymgeledd, tynerwch, a chariad;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;?Tafl ymaith y fflangell, a dryllia'i chadwynau.
Dyngarwch a rhinwedd ymgiliant i wylo,?A chrefydd, o hirbell, saif draw dan och'neidio,--?Gweld gwaedlyd archollion y fflangell gylymog?Yn gwysau plethedig dan ddwyfron y feichiog;
O ystyr, yn dirion, ei gwylder a'i dagrau;?Tafl ymaith y fflangell, a diyllia'i chadwynau.
Mae Llywydd y bydoedd yn gweled ei chlwyfau,?Mae'n clywed ei chwynion, mae'n cyfrif ei dagrau,?Mae'n codi i ddial--clyw'r daran yn rhuo--?Mae'n gwisgo ei gleddyf, mae bron mynd i daro:
O cryned dy galon! ymostwng mewn dychryn,?Tafl ymaith y fflangell, a dryllia y gadwyn.
Y FENYW WENIEITHUS.
Ar wyll y nos, dan dywyll lenni'r hwyr,?Pan guddid gwen yr haul dan orchudd llwyr,?Yn nrws ei thy, yn denawl wenu'n llon,?Mewn esmwyth wisg, a dichell dan ei bron,?Y fenyw deg wenieithus welaf draw,?Yn gwamal droi ei llygaid ar bob llaw,?Nes canfod llanc mwyn hardd-deg, ond heb bwyll?Na deall da i ochel hudawl dwyll.
Gan ddal ei law, hi a'i cusanodd ef,?Ac mewn iaith ystwyth, gyda dengar lef,?Dywedai'n hyf,--"Roedd im' aberthau hedd,?Ond cedwais wyl, a gwnaethum heddyw wledd:?Yr hen adduned ddwys, cywirais hi,?A brysiais heno'n llon i'th gyfarch di:?Fy ngwely drwsiais a cherfiadau gwych,?Ac a sidanaidd lenni teg eu drych;?Mwg-derthais ef ag enaint peraidd iawn,?O aloes, myrr, a sinamon, mae'n llawn.?Tyrd gyda mi,--ni chawn byth gyfle gwell?I garu'n gu,--mae'r gwr yn awr ymhell:?O arian cymerth godaid yn ei law,?Ac ar y dydd amodol adref daw.?Mae dyfroedd cel fel gwin i'r galon brudd,?Cawn hyfryd wledd o beraidd fara cudd."
A'i geiriau teg, ei droi a'i ddenu wnaeth,?Nes cael i'w rhwyd ei galon ffol yn gaeth;?Fel ych yn fud i'r lladdfa aeth yn glau,?Neu fel yr ynfyd cyn i'r cyffion gau:?Heb gofio gwg na llygad craff yr Ior,?Canlynodd hi, gan ddistaw gau y ddor.
Ymysg ei fwyn hoff gu gyfoedion llon,?Lle rhodiai gynt heb ofid dan ei fron,?Nac yn ei dy, ni welwyd mono mwy;?Ei geraint oll, mewn galar gwelid hwy.?Ei dad, mewn dagrau, ro'i ei ben dan gudd,?A'i fam, wrth riddfan, rwygai 'i mynwes brudd.
Wrth wrando llais y fenyw ddengar ddrwg,?Cynhyrfir Ior y nef i wisgo gwg;?Porth uffern yw ei haddurnedig dy,?A'i ffordd i gell oer angau'n arwain sy;?Gweu maglau mae i ddal eneidiau'n gaeth?Yn nyfnder gwae, i oddef bythol aeth;?Os yno'r a, nid oes i'r adyn ffol?Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol.
Y TWYLLWR HUDAWL.
Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd,?Y trigai'n llon forwynig deg ei phryd;?Hoff unig ferch ei dedwydd fam a'i thad,?Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad.
Pan, gyda'r wawr, y pigai'n llon o blith?Pei-lysiau'r maes a dagrau'r bore wlith,?Y rhosyn coch a'r lili, teg eu drych,?I fritho'n hardd ei swp o flodau gwych,?A phan adseiniai lais yr eos fwyn,?Gan heinif ddawnsio'r gan o dwyn i dwyn,--?O'r braidd, er craffu, gall'sid dweyd ar g'oedd,?Pa un ai dynes ai angyles oedd.
Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd,?A buan ffodd y gan o'i mynwes brudd.?Un hwyr, gan wisgo gwen, rhyw dwyllwr ddaeth?I geisio 'i dal mewn hudawl serch yn gaeth.?Wrth weld ei wen, ei chalon dyner wan,?Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan:?A'r gelyn cas, 'nol ei handwyo hi,?Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri.
Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth,?A'i galon falch fel darn o garreg aeth;?Dan erchyll reg--gan droi ei wyneb draw--?Ei gwthio wnaeth o'i dy i'r gwynt a'r gwlaw;?A chloi ei ddrws,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 37
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.