lliw,?Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,?I ble 'r a llygad dyn nad yw,
Yng ngwydd y tlws a'r cain??Prydferthwch sydd yn llanw 'r nef,?A phob creadur greodd Ef,?O'r eryr ar ei aden gref,
I'r dryw sydd yn y drain.
BREUDDWYD Y BARDD.
Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae seibiant yn y don ar ddiwedd y chweched llinell, a'r llinell olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.
ALAW,--Breuddwyd y Bardd.
[Music not transcribed--DP]
Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlan;?A'i feddwl a hedodd i'r amser
Y gwelid ei blant wrth y tan.?Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd
Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd -?Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.
Fe welodd ei hun yn priodi,
Genethig anwylaf y wlad;?Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!"?Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu,
Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd -?Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.
Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,?Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.?Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd -?Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.
Er na bu un linell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed;?Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed,?A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen,
Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd -?Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.
CORN Y GAD.?ALAW,--Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.
Ar y mynydd rhodiai bugail,?Gwelai 'r gelyn ac yn uchel,?Bloeddiodd allan--"Llongau Rhyfel!"?Yna clywai gorn y gad.
Corn y gad!?Dyna ganiad corn arswydion,?Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,?Cawdor sydd yn galw 'i ddynion.?Corn y rhyfel hollta 'r nefoedd,?Tery arswyd trwy 'r mynyddoedd,?Etyb creigiau pell y cymoedd
Gorn y gad.
Fel mae Draig hen Gymru 'n deffro?Tan y amynydd yn ei hogo',?Cerrig ateb sydd yn bloeddio,?Chwythu 'n uwch wna corn y gad;
Corn y gad!?Meibion Berwyn ydynt barod,?Llifant o'r mynyddoedd uchod,?Duant y gwastadedd isod;?Meirch i'r frwydyr gydgarlamant,?Holl gleddyfau Cymru fflamiant,?Mewn urdduniant, cydatebant
Gorn y gad!
CORN Y GAD.
Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o'm blaen wedi cyfansoddi can ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig. Fe ddichon fod y don wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o'm cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na'm heiddo i. Fe ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daethum ar ei thraws. Fel yr oedd Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i'n gilydd, fe ofynnodd ef braidd yn sydyn, "A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?" Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. "O," ebai yntau, "hen don anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i 'Difyrrwch Gwyr Harlech,' ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi." Digwyddodd fod ei lais yn well nag arferol, a'm ystafell innau yn fechan, ac allan a hi nes oedd y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y ty. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan seindorf Dolgellau.
DAFYDD Y GARREG WEN.
Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd Dafydd, i'r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y don sydd ar ei enw. Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y don yn un o'r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i'w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni ynghyd a'r geiriau,--"BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GARREG WEN."
'R oedd Dyfydd yn marw, pan safem yn fud?I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;?"Ffarwel i ti 'mhriod, fy Ngwen," ebai ef,?"Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef."
Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth?I chwyddo 'r tro olaf trwy 'i fynwes oer, gaeth;?"Hyd yma 'r adduned, anwylyd, ond moes?Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes."
Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed?Ollyngodd alawon na chlywsid erioed;?'R oedd pob tant yn canu 'i ffarweliad ei hun,?A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.
"O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fon,?Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo 'r don,?Y dydd y'm gosodir fi 'n isel fy mhen," -?A'i fysedd chwareuant yr "Hen Garreg Wen."
'R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud?I wylio datodiad rhwng bywyd
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.