Ceiriog | Page 8

John Ceiriog Hughes
y Garreg.
Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gan hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y ty bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.
Fe ddaw wythnos yn yr haf,?Gweled hen gyfeillion gaf;
Tros y mynydd?I Feirionnydd,?Tros y Garreg acw 'r af.?Ar y mynydd wele hi,?Draw yn pwyntio ataf fi;?Fyny 'r bryn o gam i gam,?Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg?Tros y Garreg?I fy unig anwyl fam.
Fe gaf chware ar y ddol,?Fe gaf eistedd ar y 'stol,
Wrth y pentan,?Diddan, diddan,?Tros y Garreg af yn ol.?Pan ddaw 'r wythnos yn yr haf,?O fel codaf ac yr af,?Fyny 'r bryn o gam i gam,?Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg?Tros y Garreg?I fy unig anwyl fam.
BARDD YN EI AWEN.?ALAW,--Bardd yn ei Awen.
Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa un o'r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y don yn ddigon ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai
Nad oes faws na dwys fesur?O un baich i hen don bur,
mwy nag i awen.
Mae Bardd i ddod ryw ddydd,?A brenin-fardd ein bryniau fydd,
Fe ddaw i Gymru lan;?Ei wlad a glyw ei lef,?A ni a phawb a'i hoffwn ef,
Pan gwyd pen gawr y gan;?Fe aiff i ddwyfol fan,
Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:?Am Hedd fe gan o hyd,?Fod angel Hedd yn hel ynghyd,
Enwadau 'r byd yn un.
Fe ddaw y Bardd i'r byd,?A'i gan i ben, O! gwyn eu byd
Y dorf a wel y dydd;?Pwy wel y bore gwyn,?Ac heulwen deg cyflawniad hyn,
Y fath gyfundeb fydd!?Daw bardd i fysg ein plant,
I daro tant yn natur dyn;?Am Hedd fe gan o hyd,?Fod angel Hedd yn hel ynghyd
Enwadau 'r byd yn un.
CODIAD YR HAUL.?ALAW,--Codiad yr Haul.
Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i'w chanu ar offeryn na chyda llais, oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth geiriau, ac odlau yn cael llithro trostynt o'r bron heb eu cyffwrdd. Yr oedd Handel yn gydnabyddus iawn gyda'r hen donau Cymreig, ac fe ddefnyddiodd hon yn ei Acis and Galatea. Yr oedd cyfaill o Sais un tro yn chware yr alaw o dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu ddwy tros y don, pan waeddodd allan tros ei ysgwydd, "Ai ton Gymreig y galwch chwi hon? Ton o waith Handel yn don Gymreig!" Yr oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i esbonio iddo.
Gwel, gwel! wyneb y wawr,?Gwenu mae y bore-gwyn mawr:?Ac wele'r Haul trwy gwmwl rhudd,?Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I'w wydd adar a ddont,?Dreigiau 'r Nos o'i olwg a ffont.?Pwy ddwed hardded ei rudd,?Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y mor yn gochfor gwaed,?A'r ddaear dry o dan ei draed,?A'r ddaear dry o dan ei draed.
Haul, Haul! hyfryd yw Haul,?Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:?I fyrdd y dysg fawredded yw?Y gwynwedd dan gyneuodd Duw!
I'w daith' fyny y daw,?Llygaid dydd a'i gwelant ef draw;?Egyr pob blaguryn byw,?Ar ros a gwaun yn rhesi gwiw -
Gwel pob peth wyn haul y nen,?E' gwyd y byd pan gwyd ei ben,?E' gwyd y byd pan gwyd ei ben.
LLONGAU MADOG.?ALAW,--Difyrrwch y Brenin.
Wele'n cychwyn dair ar ddeg,?O longau bach ar fore teg;?Wele Madog ddewr ei fron,?Yn gapten ar y llynges hon.?Mynd y mae i roi ei droed,?Ar le na welodd dyn erioed:?Antur enbyd ydyw hon,?Ond Duw a'i dal o don i don.
Ser y nos a haul y dydd,?O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;?Codai corwynt yn y De,?A chodai 'r tonnau hyd y ne;?Aeth y llongau ar eu hynt,?I grwydro 'r mor ym mraich y gwynt;?Dodwyd hwy ar dramor draeth,?I fyw a bod er gwell er gwaeth.
Wele'n glanio dair ar ddeg,?O longau bach ar fore teg:?Llais y morwyr glywn yn glir,?'R ol blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"?Canent newydd gan ynghyd,?Ar newydd draeth y newydd fyd -?Wele heddwch i bob dyn,?A phawb yn frenin arno 'i hun.
SERCH HUDOL.?ALAW,--Serch Hudol.
Serch Hudol swyn,?Sy'n llanw 'r llwyn,?Pan fo myrdd o adar mwyn,
Yn canu yn y coed.?Mae anian oll yn canu 'nghyd,?'D oes dim yn fyddar nac yn fud,?Mae mwy o fiwsig yn y byd
Na thybiodd dyn erioed.?Corau 'r Wynfa wen,?A ganant byth heb ddod i ben,?Maer delyn aur gan deulu 'r nen,
Yng ngwyddfod Duw ei hun.?Mae can yn hedeg ar ei hynt,?Yn swn y mor a llais y gwynt,?Bu ser y bore 'n canu gynt,
Paham na chana dyn?
Serch hudol yw,?Pob peth sy'n byw,?Yn y nef a daear Duw;
O'r haul sy'n llosgi fry -?I'r pryfyn tan yr hwn a roed,?I rodio 'r clawdd a gwraidd y coed,?I oleu ar y llwybyr troed
Sy'n arwain i dy dy.?Hardd yw llun a
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 23
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.