oedd yn erchyll o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a syrthiodd ar ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn enbydrwydd mawr. Yr oedd ei ddwylaw'n ddyfnion, fel y dywedwyd, ym mhocedau ei lodrau. Os ymegniai i dynnu y naill law allan, treiglai oddiar y llwybr i'r dwfr ar y naill du, oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn. Os tynnai'r llaw arall, ai drosodd yr ochr aroll, ac yr oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor oer, a rhewllyd. Nid oedd dim i'w wneyd ond aros yn llonydd hyd nes y delai rhywun heibio. Ni fedrai neb, fel y Lefiad a'r offeiriad y sonnir am danynt yn yr Ysgrythyr, fyned "o'r tu arall heibio" a daeth rhyw Samaritan o'r diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi'r gwr oedd yn methu tynuu ei ddwylaw o'i bocedi.
Ond haf ydyw'n awr; y mae'r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi darfod, y mae'r glaswenwyn a blodau'r taranau hyd y cloddiau, ac y mae'r corn carw hyd lethrau'r mynydd. Dyma'r llwybr yn dod a ni at yr afon eto, a dacw'r "Hen Gapel" yr ochr draw,--hen gapel Lewis Rhys ac Abraham Tibbott, Dr Lewis a Michael Jones. O'n blaenau y mae craig serth yn ymgodi i'r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig Castell Carn Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y llawr ar ben y graig uchel acw; ond daw'n fellt a tharanau ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati. Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau'r muriau, a gellir syllu ar ei bryd-ferthwch heb ofni mellt na tharanau na dim.
Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athraw barddonol Ap Vychan,--"bardd rhagorol, llawn o athrylith a than awenyddol, fu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau." Ychydig yn uwch i fyny dyma'r Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd y Dysgedydd. Ar y chwith, rhyw ddau hyd cae o'r ffordd, y mae'r Wern Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu'n ceisio darbwyllo Ap Vychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i'r nefoedd, ac mai Deio'r Graig oedd yn achosi'r taranau trwy fynd o ben y castell i lawr y nefoedd, a gyrru olwyn ar hydddo. Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Ty Mawr lle y daeth Ap Vychan yn hogyn cadw pan yn ddeg oed, a'r lle y bu am saith mlynedd, yn mwynhau llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth gref gariadlawn y wraig fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welodd erioed.
Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y chwith ar hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un Ap Vychan yn dweyd mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw, Darluniai'r golygfeydd welid o'r hafod honno,--y mynyddoedd, gwaelod dyffryn Penanlliw a Llanuwchllyn, a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl ddieithr, wrth glywed Ap Vychan yn darlunio'r lle, mai palas y gellid ei alw'n Ddymunol, yng ngwlad Beulah, oedd Hafod y Bibell. A dyma'r lle. Y mae'n dechre adfeilio erbyn hyn,--nid oes yno ond to diferllyd a ffenestri gweig ion, fel tyllau llygad ysgerbwd. Y mae das o hen wair yn y gadles yn ymyl, a llwybr glaswelltog i'r caeau, llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth rhyngddo a'r cae. Pe gwelai Ap Vychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo ddweyd geiriau Dafydd ab Gwilym am y murddyn welodd mewn lle y buasai unwaith "yn glyd uwchben ei fyd mwyn,"-
"Yn ddiau mae i'th gongl ddwy-och, Gwely im oedd, nid gwal moch."
Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y dde. Toc croeswn gae, ac y mae'r Ty Coch draw yn ei gwr uchaf. Y mae mawredd gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i'r Ty Coch, ond tlodaidd iawn yw'r olwg ar y ty ei hun.
Gadewch i ni ddynesu ato. Y mae'n eithaf clyd a glan, er mai bechan iawn yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr. Dyma ddau wr ieuanc yn dod o'r ty i'n cyfarfod, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynnom pan ddeallant ein bod ar bererindod i wlad Ap Vychan. Peth digon hawdd i bobl ddieithr fel y ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac yn medru siarad Saesneg, ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y fro hon, yng ngwydd pobl wledig. Gwell i chwi beidio mewn cwm fel Penanlliw; y mae'r gwr ieuanc gwalltddu yna wedi gweled mwy ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw'r llall.
Dan gyfarwyddyd dau
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.