"wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd y prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo" arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol a'm chwaeth, sef Sian Hughes, Pontrobert, glywais unwaith ar stryt y Bala, amser Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. "Mi fydde'n son am iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc," ebai'r gwas ffarm, yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae'n debyg, gan bregethau'r hen wraig. Yr oedd y Sian Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd, yn ferch i Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynnau Ann Griffiths.
Ond y mae'r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw wedi troi'n wlithwlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu, -
"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw! Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw; Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy, Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy."
TY COCH
Anaml y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Vychan, ac anaml iawn y bu i neb gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion dinod ei ieuenctyd; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i'r ty to brwyn yn yr hwn y dioddefodd eisieu bara, ac o'r hwn y gorfod iddo gychwyn i gardota aml dro.
Saif y Ty Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloew, yn ymyl hen ffordd Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes, ar fin mynydd sy'n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i Draws Fynydd. Y mae'n anodd cael taith ddifyrrach na'r daith o orsaf Llanuwchllyn i Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un hoff o dawelwch ac awel iach oddiar eithin a grug y mynydd.
Dyma ni'n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw. Toc trown ar y dde, a cherddwn dan goed sy'n taflu eu cysgodion dros y ffordd. Dyma'r "adwy wynt," a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi'n dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom. Hwyrach y tarewch ar hen ddiwinydd a'i bwys ar ei ffon. Hwyrach y cyfarfyddwch a rhywun bydol,--hen wr a gwallt fel nadroedd sonia wrthych am ddyfais newydd i wneyd cribiniau, neu am ryfeddodau gwledydd pell. Hwyrach y cewch hen hanesydd ddywed wrthych fel y byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y "Gwaliau, ac wedi croesi'r bont cawn ein hunain yng nghwr y Llan, rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dy tafarn. Yn y fynwent honno, y tu hwnt i'r eglwys, gorwedd Ap Vychan hyd ganiad yr udgorn. Ac yn y ty tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc tlawd, i yfed ei lasied cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.
Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn ein blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Liw a phentref bychan Pen y Bont. Cyn croesi'r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac yn cymeryd ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle'r afon Liw. Ar un ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dol lydan werdd, a'r afon yn dwndwr gyda'i godreu. Yr ochr arall i'r afon y mae'r Cei, ffordd gul wedi ei chodi'n uwch na'r tir gwastad o bobtu iddi. Ar hyd y cei noethlwm hwn, dyfal gyrcha'r pererinion Anibynnol i'r Hen Gapel a welwn draw. Anodd cael rhodfa fwy dymunol na'r Cei yn yr haf, pan fo'r brithylliaid i'w gweled yn chwareu yn yr afon, a phan fo awel ysgafn gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus. Ond yn y gauaf, pan fo dwfr oer rhewllyd o bobtu, pan chwyth awel lem finiog oddiar fynydd sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua'r cyfarfod gweddi.
Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gwr tyn yn cerdded hyd y Cei yn nyfnder gauaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi gwthio ei ddwylaw i bocedi ei lodrau, ie, i'w gwaelod, oherwydd yr
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.