Yr Hwiangerddi | Page 3

Owen M. Edwards
GAERDYDD.
Gyrru, gyrru, i Gaerdydd,?Mofyn pwn o lestri pridd;?Gyrru, gyrru'n ol yn glau,?Llestri wedi torri'n ddau.
XXI. Y CEFFYL DU BACH.
Pandy, pandy, melin yn malu,?Gweydd yn gweu a'r ffidil yn canu;?Ceffyl bach du a'r gynffon wen?Yn cario Gwen a Mari.
XXII. I'R FFAIR.
Tomos Jones yn mynd i'r ffair,?Ar gefn ei farch a'i gyfrwy aur;?Ac wrth ddod adre cwyd ei gloch,?Ac yn ei boced afal coch.
XXIII. AR DROT.
'Ar drot, ar drot, i dy Shon Pot,?Ar whil, ar whil, i dy Shon Pil;?Ar garlam, ar garlam, i dy Shon Rolant,?Bob yn gam, bob yn gam, i dy f'ewythr Sam.
XXIV. AR GARLAM.
Iohn bach a finne,?Yn mynd i Lunden Glame;?Ac os na chawn ni'r ffordd yn glir,?Ni neidiwn dros y cloddie.
XXV. Y DDAFAD FELEN. {16}
Croen y ddafad felen,
Yn towlu'i throed allan;?Troed yn ol, a throed ymlaen,
A throed yn towlu allan.
XXVI. CNUL Y BACHGEN COCH.
"Ding dong," medd y gloch,?Canu cnul y bachgen coch;?Os y bachgen coch fu farw,?Ffarwel fydd i'r gwin a'r cwrw.
XXVII. DAU FOCHYN BACH.
Dacw tada'n gyrru'r moch,?Mochyn gwyn, a mochyn coch;?Un yn wyn yn mynd i'r cwt,?A'r llall yn goch a chynffon bwt.
XXVIII. COLLI ESGID.
Dau droed bach yn mynd i'r coed,?Esgid newydd am bob troed;?Dau droed bach yn dwad adre?Wedi colli un o'r 'sgidie.
XXIX. I'R FELIN.
Dau droed bach yn mynd i'r felin,?I gardota blawd ac eithin;?Dau droed bach yn dyfod adra,?Dan drofera, dan drofera.
XXX. IANTO.
Carreg o'r Nant,
Wnaiff Iant;?Carreg o'r to,
Wnaiff o,--?Ianto.
XXXI. DEIO BACH.
Deio bach a minne?Yn mynd i werthu pinne;?Un res, dwy res,
Tair rhes am ddime.
XXXII. Y BYSEDD.
Modryb y fawd,?Bys yr uwd,?Pen y cogwr,?Dic y peipar,?Joli cwt bach.
XXXIII. HOLI'R BYSEDD. {19a}
"Ddoi di i'r mynydd?" meddai'r fawd,?"I beth?" meddai bys yr uwd;?"I hela llwynog" meddai'r hir-fys; {19b}?"Beth os gwel ni?" meddai'r canol-fys;?"Llechu dan lechen" meddai bys bychan.
XXXIV. RHODD. {20}
Buarth, baban, cryman, croes;?Modrwy aur i'r oreu 'i moes.
XXXV., XXXVI. I'R YSGOL.
Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;?Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;?Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,?"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.
Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,?Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;?O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,?Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn.
XXXVII. LLE DIFYR.
Mi fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,?A'dyna'r lle difyrraf
Y bum i ynddo 'rioed;?Yr adar bach yn canu,
A'r coed yn suo ynghyd,--?Fy nghalon fach a dorrodd,
Er gwaetha rhain i gyd.
XXXVIII. COLLI BLEW.
Pwsi mew, pwsi mew,?Lle collaist ti dy flew?
"Wrth gario tan?I dy modryb Sian,?Yng nghanol eira a rhew."
XXXIX. BODDI CATH.
Shincin Sion o'r Hengoed
Aeth i foddi cath,?Mewn cwd o lian newydd,
Nad oedd e damed gwaeth;?Y cwd a aeth 'da'r afon,
A'r gath a ddaeth i'r lan,?A Shincin Sion o'r Hengoed
Gas golled yn y fan.
XL. WEL, WEL.
"Wel, wel,"?Ebe ci Jac Snel,?"Rhaid i mi fynd i hel,?Ne glemio."
XLI., XLII. PWSI MEW.
Pwsi meri mew,?Ble collaist ti dy flew??"Wrth fynd i Lwyn Tew?Ar eira mawr a rhew."
"Pa groeso gest ti yno.?Beth gefaist yn dy ben?"?Ces fara haidd coliog,?A llaeth yr hen gaseg wen."
XLIII. CALANMAI.
Llidiart newydd ar gae ceirch,
A gollwng meirch o'r stablau;?Cywion gwyddau, ac ebol bach,
Bellach ddaw Calanmai.
XLIV.--XLVI. DA.
Mae gen i darw penwyn,
A gwartheg lawer iawn;?A defaid ar y mynydd,
A phedair das o fawn.
Mae gen i gwpwrdd cornel,
A set o lestri te;?A dresser yn y gegin,
A phopeth yn ei le.
Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,?A phump o wartheg tewion,
Yn pori yn y clwt.
XLVII. DACW DY.
Dacw dy, a dacw do,?Dacw efail Sion y go;?Dacw Mali wedi codi,?Dacw Sion a'i freichiau i fyny.
XLVIII. COFIO'R GATH.
Ar y ffordd wrth fynd i Ruthyn,?Gwelais ddyn yn gwerthu brethyn;?Gofynnais iddo faint y llath,?Fod arnaf eisio siwt i'r gath.
XLIX. YSTURMANT. {27a}
(I ddynwared swn ysturmant.)
DWR glan gloew,?Bara chaws a chwrw.
L. YSGUTHAN. {27b}
(I ddynnwared Can Ysguthan.)
Cyrch du, du,?Yn 'y nghwd i.
LI. SIAN.
Sian bach anwyl,
Sian bach i;?Fi pia Sian,
A Sian pia fi.
LII. SIAN A SION.
Pan brioda Sion a minnau,?Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau;?Ieir y mynydd yn bluf gwynion;?Ceiliog twrci fydd y person.
LIII. SION A SIAN.
Sion a Sian yn mynd i'r farchnad,?Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i werthu dafad.
LIV. Y CROCHAN.
Rhowch y crochan ar y tan,
A phen y fran i ferwi;?A dau lygad y gath goed,
A phedwar troed y wenci.
LV. UST.
Ust, O taw! Ust, O taw,?Aeth dy fam i Loeger draw;?Hi ddaw adre yn y man,?A llond y cwd o fara cann.
LVI. CYSGU.
Bachgen bach ydi'r bachgen gore,
Gore, gore;?Cysgu'r nos, a chodi'n fore,
Fore, fore.
LVII. FFAFRAETH.
Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du;?Yn rhifo deg am geiniog,
Ond un ar ddeg i fi.
LVIII. MERCH EI MAM.
Morfudd fach, ferch ei mham,?Gaiff y gwin a'r bara cann;?Hi gaiff 'falau per o'r berllan,?Ac yfed gwin o'r llester arian.
LIX. MERCH EI THAD.
Morfudd fach, merch ei thad,?Gaiff y wialen fedw'u rhad;?Caiff ei rhwymo wrth bost y gwely?Caiff ei chwipio bore yfory.
LX. COLLED.
Whic a whiw!?Aeth y barcud a'r ciw;?Os na feindwch chwi ato,?Fe aiff ag un eto.
LXI. ANODD COELIO.
Mae gen i hen iar dwrci,?A mil o gywion dani;?Pob un o rheiny yn gymaint ag ych,--
Ond celwydd gwych yw
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.