GWAITH TRI.
'Roedd Sion, a Sian, a Siencyn,
Yn byw yn sir y Fflint;?Aeth Sion i hela'r cadno,
A Sian i hela'r gwynt;?A Siencyn fu?Yn cadw'r ty.
CCXLVIII. LADIS.
Ladis bach y pentre,?Yn gwisgo cap a leise;?Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i'r llancie;?A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr eu crys yn llapre.
CCXLIX. Y DARAN.
Clywch y tarw coch cethin,?Yn rhuo draw yn y cae eithin;?Clywir o bell, ni welir o byth.
CCL. ENWAU.
Mae gennyf edefyn sidan,?Mi dorraf f' enw f hunan;?M ac A ac O ac U,?A dybl U for William.
CCLI. PADELL FFRIO.
Du, du, fel y fran,?Llathen o gynffon, a thwll yn ei blaen.
CCLII. COES Y FRAN.
Cwcw Glame, cosyn dime,?Coes y fran ar ben y shime.
CCLIII.--CCLVII. CALENNIG. {99}
Calennig yn gyfan?Ar fore dydd Calan,?Unwaith, dwywaith, tair.
Mi godais yn fore,
Mi gerddais yn ffyrnig,?At dy Mr Jones i ofyn calennig;
Os gwelwch yn dda,?Am swllt a chwecheiniog,
Blwyddyn newydd dda?Am ddimai neu geiniog.
Dydd Calan, cynta'r flwyddyn,
'Rwy'n dyfod ar eich traws,?I ymofyn am y geiniog,
Neu glwt o fara a chaws;?Edrychwch arna i 'n siriol,
Newidiwch ddim o'ch gwedd,?Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd llawer yn y bedd.
Mi godes heddi mas o 'nhy,?A'm ffon a'm cwdyn gyda fi;?A thyma'm neges ar eich traws,?Yw llanw 'nghwd o fara a chaws.
Dydd Calan yw heddy, onite??Na rowch chwi ddim i blant y dre;?Ond rhowch galennig pert dros ben?I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.
CCLVIII. DWY WYDD RADLON. {100}
Dwy wydd radlon,?Yn pori'n nglan yr afon,?Yn rhadloned a'r rhadlonaf wydd,
Dwy wydd radlon.
CCLIX. IAR DDA.
'Roedd gen i iar yn gori
Ar ben y Frenni Fawr;?A deg o wyau dani,--
Daeth un ar ddeg i lawr.
CCLX. PLE'R A'R ADAR.
B'le ti'n mynd, b'le ti'n mynd,
Yr hen dderyn bach??I sythu cyn bo ti'n marw??Pwy mor uchel wyt ti'n byw,?Gael dweyd wrth Ddafydd Huw??O, trueni am yr hen dderyn bach.
CCLXI. WEL, WEL.
Mi weles ferch yn godro,?A menyg am ei dwylo,?Yn sychu'r llaeth yng nghwrr ei chrys,
A merch Dai Rhys oedd honno.
CCLXII. TEIMLAD DA.
Mae'n dda gen i ddefaid, mae'n dda gen i wyn,?Mae'n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;?A thipyn bach bach o ol y frech wen,?Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.
CCLXIII. DAU GANU.
Mae gen i ganu byrr bach,--?Ffiol a llwy, a sucan a llaeth;?Mae gen i ganu byrr bach sy hwy,--?Ffiol a llaeth, a sucan a llwy.
CCLXIV. TARW CORNIOG.
Tarw corniog, torri cyrnau,?Heglau baglog, higlau byglau;?Higlau byglau, heglau baglog,?Torri cyrnau tarw corniog.
CCLXV. PE TASAI.
Pe tasai'r Wyddfa i gyd yn gaws,
Fe fuasai'n haws cael enllyn;?A Moel Eiddia'n fara gwyn,
A'r llyn yn hufen melyn.
CCLXVI. TRO FFOL.
Fy modryb, iy modryb, a daflodd ei chwd,?Dros bont Aber Glaslyn, i ganol y ffrwd;?Cnau ac afalau oedd ynddo fo'n dynn,?Mi wn fod yn 'difar i'w chalon cyn hyn.
CCLXVII. FEL DAW TADA ADRE.
Dydd Gwener a dydd Sadwrn
Sydd nesa at ddydd Sul;?Daw dada bach tuag adre,
Mewn trol a bastard mul.
CCLXVIII. BUWCH.
Mae gennyf fuwch a dau gorn arian,?Mae gennyf fuwch yn godro'i hunan;?Mae gennyf fuwch yn llanw'r stwcau,?Fel mae'r mor yn llanw'r beiau.
CCLXIX. LLE PORI.
Marc a Meurig, b'le buoch chwi'n pori??"Ar y Waen Las, gerllaw Llety Brongu."?Beth gawsoch chwi yno yn well nag yma??"Porfa fras, a dwr ffynhonna."
CCLXX. O GWCW.
O gwcw, O gwcw, b'le buost ti cyd?Cyn dod i Benparce? Ti aethost yn fud.?"Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,?Mi godais fy aden i fyny i'r gwynt;?Ni wnes gamgymeriad, nid oeddwn mor ffol,?Corwynt o'r gogledd a'm cadwodd i'n ol."
CCLXXI. LLIFIO.
Llifio a llif,?Am geiniog y dydd;?Llifio pren bedw,?Yng nghoed yr hen widw;?Bocs i John, a bocs i finne,?Bocs i bawb drwy'r ty 's bydd eise.
CCLXXII. AR OL Y LLYGOD. {107}
Wil ffril ffralog?A'i gledde tair ceiniog,?Yn erlid y llygod trwy'r llydi;
Aeth y llygod i'r dowlad,?Aeth Wil i 'mofyn lletwad;
Aeth llygod i'r ddol.?Aeth Wil ar eu hol,?Aeth y llygod i foddi,?Aeth Wil i gysgu.
CCLXXIII. ElRINEN.
Hen wraig bach, den, den,?Pais ddu, a het wen,?Calon garreg, a choes bren.
CCLXXIV. CREMPOG.
Os gwelwch chwi'n dda, ga'i grempog?
Mae mam yn rhy dlawd?I brynnu blawd,?A nhad yn rhy ddiog i weithio;
Halen i'r ci bach,?Bwyd i'r gath bach,?Mae ngheg i'n grimpin eisiau crempog.
CCLXXV. YR AWYR.
Dol las lydan,?Lot o wyddau bach penchwiban,?A chlagwydd pen aur, a gwydd ben arian.
CCLXXVI. NYTH Y DRYW.
Y neb a dynno nyth y dryw,?Ni wel ddaioni tra bo byw.
CCLXXVII. NYTH YR EHEDYDD.
Y neb a dynno nyth ehedydd,?Cyll oddiar ei ben ei fedydd.
CCLXXVIII. NYTH ROBIN.
Os tynni nyth y robin,?Ti gei gorco yn dy goffin.
CCLXXIX. CARU CYNTAF.
Pan eis i gynta i garu,
Nid own ond bachgen bach,?Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stol fach;?Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,?Yn gallu cyrraedd cusan
A 'nwy droed ar y llawr.
CCLXXX. CHWYTHU.
Y gwynt ffalwm ar fawr hwthrwm,?Chwyth dy dy di'n bendramwgwm.
CCLXXXI. CAMGYMERIAD.
Pan own i'n mynd a brag tua'r felin,?Meddylies i fi gwrdd a brenin;?Erbyn edrych, beth oedd yno??Hen gel gwyn oedd bron a thrigo.
CCLXXXII. CAN IAR. {109}
A glywaist ti?Gan ein iar ni?--?"Dodwy, dodwy 'rioed,?Heb un esgid am fy nhroed;?A phe bawn yn dodwy byth,?Ni chawn ond UN wy yn fy nyth."?"Taw'r ffolog," ebai'r ceiliog,?"Wnaeth y crydd 'rioed esgid fforchog."
CCLXXXIII.

Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.