Yr Hwiangerddi | Page 4

Owen M. Edwards
hynny?
LXII. DODWY DA.
Mae gen i iar a cheiliog?A brynnais i ar ddydd Iau;?Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau.
LXIII. BYW DETHEU.
Mae gen i iar a cheiliog,
A hwch a mochyn tew;?Rhwng y wraig a finne,
'R ym ni'n eig wneyd hi'n lew.
LXIV. DA.
Mae gen i ebol melyn
A merlen newydd spon,?A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron;?Mae gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,?Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.
LXV. Go-Go-Go!
Shoni Brica Moni
Yn berchen buwch a llo;?A gafar fach, a mochyn,
A cheiliog, go-go-go!
LXVI. CYNFFON.
Mi welais nyth pioden,?Fry, fry, ar ben y goeden,--
A'i chynffon hi mas.
LXVII. TAITH DAU.
Dafi bach a minne,
Yn mynd i Aberdar,?Dafi'n mofyn ceiliog,
A minne'n 'mofyn giar.
LXVIII. YSGWRS.
"Wel," meddai Wil wrth y wal,?Wedodd y wal ddim wrth Wil.
LXIX. HOFF BETHAU.
Mae'n dda gan hen wr uwd a lla'th
Mae'n dda gan gath lygoden;?Mae'n dda gan 'radwr flaen ar swch,
Mae'n dda gan hwch y fesen.
LXX. CLOC.
Mae gen i, ac mae gen lawer,?Gloc ar y mur i gadw amser;?Mae gan Moses, Pant y Meusydd,?Gloc ar y mur i gadw'r tywydd.
LXXI. DWY FRESYCHEN.
Mi welais ddwy gabetsen,?Yn uwch na chlochdy Llunden;?A deunaw gwr yn hollti 'rhain,?A phedair cainc ar hugain.
LXXII. TOI A GWAU.
Mi welais i beth na welodd pawb,--
Y cwd a'r blawd yn cerdded;?Y fran yn toi ar ben y ty,
A'r malwod yn gwau melfed.
LXXIII. MALWOD A MILGWN.
Mi welais innau falwen goch,
A dwy gloch wrth ei chlustiau;?A dau faen melin ar ei chefn,
Yn curo'r milgwn gorau.
LXXIV. GWENNOL FEDRUS.
Do, mi welais innau wennol,?Ar y traeth yn gosod pedol;?Ac yn curo hoel mewn diwrnod,--?Dyna un o'r saith rhyfeddod.
LXXV. LLYNCU DEWR.
Mi weles beth na welodd pawb,--
Y cwd a'r blawd yn cerdded,?Y fran yn toi ar ben y ty,
A'r gwr mor hy a hedeg;?A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn Ilyncu tri dyniawed.
LXXVI., LXXVII. Y DDAFAD YN Y BALA.
'Roedd gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,?Yn pori ar lan yr afon
Ymysg y cerrig man;?Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd arni gi;?Ni welais i byth mo'm dafad,
Ys gwn i a welsoch chwi?
Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei gwlan,?Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen tanllwyth mawr o dan;?A'i phibell a'i thybaco,
Yn smocio'n abal ffri,?A dyna lle mae y ddafad,--
Gwd morning, Jon, how di!
LXXVIII. IAR Y PENMAEN MAWR.
'Roedd gen i iar yn gorri,
Ar ben y Penmaen Mawr,?Mi eis i droed y Wyddfa
I alw arni i lawr;?Mi hedodd ac mi hedodd,
A'i chywion gyda hi,?I ganol tir y Werddon,--
Good morning, John! How di?
LXXIX. I BLE?
Troi a throsi, troi i ble??I Abergele i yfed te.
LXXX. MORIO.
Fuost ti erioed yn morio??"Do, mewn padell ffrio;?Chwythodd y gwynt fi i Eil o Man,?A dyna lle bum i'n crio."
LXXXI. LLONG FY NGHARIAD.
Dacw long yn hwylio'n hwylus,?Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;?Os fy nghariad i sydd ynddi,?Hwyliau sidan glas sydd arni.
LXXXII. CWCH BACH.
Cwch bach ar y mor,
A phedwar dyn yn rhwyfo;?A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi,--"Dyn a'n helpo."
LXXXIII. GLAN Y MOR.
Mae gen i dy bach del,?O dy bach del, O dy bach del,
A'r gwynt i'r drws bob amser;?Agorwch dipyn o gil y ddor,?O gil y ddor, o gil y ddor,
Cewch weld y mor a'r llongau.
LXXXIV. DWR Y MOR.
Ioan bach a finnau
Yn mynd i ddwr y mor;?Ioan yn codi 'i goesau,
A dweyd fod dwr yn oer.
LXXXV. TRI.
Tri graienyn, tri maen melin,?Tair llong ar for, tri mor, tri mynydd;?A'r tri aderyn a'r traed arian,?Yn tiwnio ymysg y twyni man.
LXXXVI. WEDI DIGIO.
Mae fy nghariad wedi digio,?Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo;?Pan ddaw'r gwibed bach a chywion,?Gyrraf gyw i godi ei galon.
LXXXVII. CARN FADRYN.
Mi af oddiyma i ben Carn Fadryn,?Er mwyn cael gweled eglwys Nefyn;?O ddeutu hon mae'r plant yn chware,?Lle dymunwn fy mod inne.
LXXXVIII. SIGLO'R CRYD.
Siglo'r cryd a'm troed wrth bobi,?Siglo'r cryd a'm troed wrth olchi;?Siglo'r cryd ymhob hysywaeth,?Siglo'r cryd sy raid i famaeth.
LXXXIX. Y LLEUAD.
Mae nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,?Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;?A'r rheswm am fod goleu drwyddo,?Ei fod heb orffen cael ei bwytho.
LXL. COES UN DDEL. {39}
Coes un ddel, ac hosan ddu,?Fel a'r fel, fel a'r fu;?Fel a'r fu, fel a'r fel,?Ac hosan ddu coes un ddel.
LXLI. Y BRYN A'R AFON.
Y Bryn,--"Igam Ogam, ble'r ei di?"?Yr Afon,--"Moel dy ben, nis gwaeth i ti."?Y Bryn,--"Mi dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni'th arrau ceimion di."
LXLII. DECHREU CANU.
Pan es i gynta i garu,
O gwmpas tri o'r gloch,?Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle'r oedd yr hogen goch.
LXLIII. SIGLO.
Tri pheth sy'n hawdd eu siglo,--?Llong ar for pan fydd hi'n nofio,?Llidiart newydd ar glawdd helyg,?A march dan gyfrwy merch fonheddig.
LXLIV. ARFER PENLLYN.
Dyma arfer pobl Penllyn,--?Canu a dawnsic hefo'r delyn,?Dod yn ol wrth oleu'r lleuad,?Dwyn y llwdn llwyd yn lladrad.
LXLV. DILLAD NEWYDD.
Caf finnau ddillad newydd
O hyn i tua'r Pasg,?Mi daflaf rhain i'r potiwr,
Fydd hynny fawr o dasg;?Caf wedyn fynd i'r pentre,
Fel sowldiwr bach yn smart,?A phrynnaf wn a chledde,
I ladd 'rhen Fonipart.
LXLVI. LLE RHYFEDD.
Eglwys fach Pencarreg,
Ar ben y ddraenen wen;?A chlochdy mawr Llanbydder
Yn Nheifi dros ei ben.
LXLVII. SEL WIL Y PANT.
Pan oedd y
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 13
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.