Mynd i'r dim. Cilhaul ar law. Y steward yn sylweddoli anhawsterau'r ffermwyr. Hen wr Hafod Hwntw. Gweld colled am ffermwyr gonest di-dderbyn wyneb.
III. BYWYDAU DISTADL.
[Ysgrifennodd S.R. hanes rhai adwaenai, yn fyrr iawn, yn y Cronicl. Distadl oeddynt, ac y mae swyn pennaf bywyd Cymru yn eu hanes dinod. Nid oes le yn y gyfrol hon ond i ddau yn unig o'r llu, sef cardotes a gwas ffarm.]
Mary Williams, Garsiwn
Thomas Evans, Aber
Y Darluniau.
Samuel Roberts?Darlun o'r Oriel Gymreig, dynnwyd gan y diweddar John Thomas.
Bwthyn ym Maldwyn?O'r Oriel Gymreig.
"Mewn hyfryd fan ar ael y bryn,
Mi welwn fwthyn bychan;?A'i furiau yn galchedig wyn,
Bob mymryn, mewn ac allan"
Pont Llanbrynmair?O'r Oriel Gymreig.
Dan Haul y Prydnawn?O'r Oriel Gymreig.?Darlun o dai yn Llanbrynmair dan dywyniad haul yr Hydref.
Cyflwynwyr Tysteb S. R.?O'r Oriel Gymreig.
Cyflwynwyd y dysteb yn Lerpwl yn union wedi dychweliad S. R. o'r America. Eistedd Caledfryn yn y canol, a'i bwys ar ei ffon. Ar ei law chwith eistedd S.R., a J. R. yn agosaf ato yntau. Wrth gefn y ddau frawd saif y Gohebydd, eu nai, a chadwen ar ei fron. Yn union y tu cefn i S. R., yn dalaf o bawb sydd ar eu traed, saif Mynyddog.
Ffrwd y Mynydd?O'r Oriel Gymreig.?Darlun o olygfa yn ucheldir Llanbrynmair.
My Lord?H. Williams.
Talu'r Rhent?H. Williams.
CANIADAU BYRION.
[Bwthyn ym Maldwyn: sr9.jpg]
Y TEULU DEDWYDD.
Wrth ddringo bryn ar fore teg,
Wrth hedeg o'm golygon,?Gan syllu ar afonig hardd,
A gardd, a dolydd gwyrddion;?Mewn hyfryd fan ar ael y bryn
Mi welwn fwthyn bychan,?A'i furiau yn galchedig wyn
Bob mymryn, mewn ac allan.
Canghennau tewfrig gwinwydd ir
Addurnant fur y talcen,?A than y to yn ddof a gwar
Y trydar y golomen;?O flaen y drws, o fewn yr ardd,
Tardd lili a briallu;?Ac O mor hyfryd ar y ffridd
Mae blodau'r dydd yn tyfu.
Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul,
Ac hyd y dail, mae'r gwenyn?Yn diwyd gasglu mel bob awr
I'w diliau cyn daw'r dryc-hin;?Ar bwys y ty, mewn diogel bant,
Mae lle i'r plant i chwareu;?Ac yno'n fwyn, ar fin y nant,
Y trefnant eu teganau.
O fewn y ty mae'r dodrefn oll,
Heb goll, yn lan a threfnus;?A lle i eistedd wrth y tan
Ar aelwyd lan gysurus;?Y Teulu Dedwydd yno sy
Yn byw yn gu ac anwyl;?A phob un hefyd sydd o hyd
Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.
Ychwaith ni chlywir yn eu plith
Neb byth yn trin na grwgnach,?Ond pawb yn gwneyd eu goraf i
Felysu y gyfeillach;?Mae golwg iachus, liwus, lon,
A thirion ar bob wyneb;?A than bob bron y gorffwys hedd,
Tagnefedd, a sirioldeb.
Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd,
Oddeutu'r bwrdd eisteddant;?Ac am y bwyd, o hyd nes daw,
Yn ddistaw y disgwyliant;?Pan ddyd y fam y bwyd gerbron
Gwnant gyson geisio bendith;?Ac wedi 'n, pan eu porthi gant,
Diolchant yn ddiragrith.
Ar air y tad, a siriol wen,
A'r mab i ddarllen pennod;?Ac yna oll, mewn pwysig fodd,
Codant i adrodd adnod;?Yr emyn hwyrol yn y fan
Roir allan gan yr i'angaf,?Ac unant oll i seinio mawl
Cysonawl i'r Goruchaf.
Y tad a dd'wed ddwys air mewn pryd
Am bethau byd tragwyddol;?Y fam rydd ei Hamen, a'r plant
Wrandawant yn ddifrifol;?Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior,
Y bychan gor gydblygant;?A'u holl achosion, o bob rhyw,
I ofal Duw gyflwynant.
Am ras a hedd, a nawdd y Nef,
Y codant lef ddiffuant;?A Duw a ystyr yn gu-fwyn
Eu cwyn a'u holl ddymuniant;?Ac O! na fedrwn adrodd fel
Mae'r tawel Deulu Dedwydd,?Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd,
Yn cadw dydd yr Arglwydd.
Yn fore iawn, mewn nefol hwyl
I gadw'r wyl cyfodant;?Ac wedi ceisio Duw a'i wedd,
I'w dy mewn hedd cydgerddant;?Fe'u gwelir gyda'r fintai gu
Sy'n cyrchu i'r addoliad;?Ac yn eu cor, ym mhabell Ion,
Yn gyson ceir hwy'n wastad.
Ceir clywed mwynber leisiau'r plant
Mewn moliant yn cyfodi,?A'u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd,
Ac astud, wrth addoli;?Ni wag ymrodiant i un man
I hepian na gloddesta;?Ond bydd eu calon gyda gwaith
A chyfraith y Gorucha'.
Pob un, a'i Feibl yn ei law,
I'r ysgol ddaw'n amserol;?Ac yn eu cylch fe'u ceir bob pryd
Yn ddiwyd a defnyddiol;?Pan ddeuant adre'r nos yn nghyd
I gyd, a'r drws yn nghauad,?Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd
Am waith y dydd, a'u profiad.
Mor fwyn eu can! mor ddwys pob gair,
Ac O mor daer eu gweddi!?A Duw yn siriol wenu ar
Y duwiol hawddgar deulu;?Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur,
Na disglaer lestri arian,?Na llawrlen ddrudfawr yn y ty,
Na gwely-lenni sidan.
Ni feddant seigiau mawr eu rhin,
Na melus win na moethau,?Na thuedd byth i flysio'n ffol
Frenhinol arlwyadau;?Ond mae rhinweddol win a llaeth
Yr iechydwriaeth ganddynt;?A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad
A thirion Geidwad iddynt.
Fe'u ceidw'n ddiogel rhag pob braw,
Ac yn Ei law fe'u harwain,?Nes dwyn pob un i ben ei daith
Trwy hirfaith dir wylofain;?Pob un a gyrraedd yn ei dro
Hyfrydawl fro paradwys;?Ac yno'n dawel berffaith rydd
Y cant dragwyddol orffwys.
MARWOLAETH Y CRISTION.
Gristion hawddgar! Daeth yr adeg
It' ehedeg at dy Dad;?Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn,
Cyfod, cychwyn tua'th wlad;?Sych dy ddagrau, dechreu ganu,
Darfu'th bechu, darfu'th boen;?Ti gei bellach dawel orffwys
Ym mharadwys gyda'r Oen.
Er fod afon angau'n donnog,
A llen niwlog dros y glyn,?Gwel dy Briod cu yn dyfod
I'th gyfarfod y pryd hyn;?Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn,
Heb ei golyn, dan ei glwy';?Dacw uffern wedi
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.