Gwaith Samuel Roberts | Page 5

Samuel Roberts
yna, heb lygredd, caiff godi'n dra siriol,?I ddedwydd deyrnasu mewn i'enctid tragwyddol.
Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,?Caf esgyn i dawel ororau gogoniant,?I dderbyn y palmwydd, y delyn, a'r goron,?A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;
Ac yna caf brofi'r gymdeithas a'r gwleddoedd?Sy'n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.
"MAE NHAD WRTH Y LLYW."
Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,?'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;?A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r gwlaw,?A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.
Ond bachgen y cadben, yn llawen a llon,?A dd'wedai dan wenu, heb ddychryn i'w fron,--?"Er gwaethaf y tonnau awn adref yn fyw:?Pa raid ini ofni?--Mae Nhad wrth y Llyw."
O blentyn y nefoedd! Paham mae dy fron?Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y donn??Mae'r dyfnder du tywyll yn rhuo, gwir yw;?Ond diogel yw'th fywyd--Mae'th Dad wrth y Llyw.
Daw'n fuan orfoledd diddiwedd i'th ran;?Draw'n disgwyl mae'th geraint oddeutu y lan:?Y disglaer lys acw, dy hoff gartref yw;?Mae Canan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw.
Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du,?'Rwyt bron mynd i fynwes dy fwyn Brynwr cu;?Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw,?Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw.
Y DDAU BLENTYN AMDDIFAD.
[Pont Llanbrynmair: sr25.jpg]
Fy ngherbyd safai, ar fy nhaith,
Unwaith wrth westy bychan,?Pan oedd gwen oleu'r heulwen glaer
Yn euro caer y dreflan.
Wrth weled pawb o'm cylch a'u bryd
Ar dawel gydnoswylio,?Aethum i gladdfa oedd gerllaw
I ddistaw ddwys fyfyrio.
Dan briddell las, y tlawd yn llon
Ro'i hun i'w fron glwyfedig;?Ond meini cerf o farmor trwch
A guddient lwch pendefig.
Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
Dau blentyn oedd yn wylo,?Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
Lle'r oedd eu mam yn hunc.
Er fod y ddau mewn newyn mawr,
Ar lawr 'roedd darn o fara;?Edrychent arno weithiau'n syn,
Er hyn ni wnaent ei fwyta.
"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,?Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
A chwithau mewn fath brinder?"
Atebai'r bach, mewn gwylaidd don,
A'i heilltion ddagrau'n llifo,--?"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
Heb ddim i'w ofer-dreulio.
"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
'Rwy'n daer am iddi fwyta;?Ni chafodd damaid heddyw'n wir,
A dir, hi bia'r bara."
"Nis bwytaf mwy," atebai hi,
"Nes bwyto Henri dipyn;?Mi gefais i beth bara ddoe,
Ond echdoe cadd ef fymryn."
Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
Y galon lesg yn gwaedu;?Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
I geisio'u hymgeleddu.
Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,
Oedd fel y clai gan oerder;?A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,
I adrodd eu cyfyngder.
"Ein ty oedd wrth y dderwen draw,
Gerllaw y dolydd gwyrddion,?Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd
Yn hyfryd a chariadlon.
"Un tro, pan oeddym oll yn llon,
Daeth dynion creulon heibio,?I fynd a'n tad i'r mor i ffwrdd;
Ni chawn mwy gwrdd mohono.
"Ni wnaeth ein mam, byth ar ol hyn,
Ond wylo'n syn a chwynfan,?Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
Yr a'r i'r bedd yn fuan.
"Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,
A'i hegwan lais crynedig?Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,
A d'wedodd yn garedig,--
"'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,
Gwnewch dyner garu'ch gilydd:?Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,
I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.
"'Ond os na ddychwel byth eich tad,
Cewch Dduw yn Geidwad tyner;?Mae Ef i bob amddifad tlawd
Yn Dad a Brawd bob amser.'
"Yna, ar ol ymdrechu'n gu
I sychu'n dagrau chwerw,?Cusanodd ni, wrth droi 'i phen draw,
Gan godi 'i llaw a marw.
"Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
I'n harwain trwy ofidiau;?Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw,
Na ddaw ein tad byth adre',
"Er wylo yma lawer dydd
Mewn hiraeth prudd am dano,?Ac edrych draw a welem neb
Yn dod--yn debyg iddo;
"Er clywed fod y mor yn mhell,
Tybiem mai gwell oedd myned,--?Os gallem gyrraedd yno'n dau,
Y caem yn glau ei weled.
"Dan wylo aethom, law yn llaw,
Trwy wynt a gwlaw a lludded,?Gan droi yn wylaidd i bob ty
I holi'r ffordd wrth fyned.
"Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
Heb roi i ni ddim cymorth;?Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn,
Gan roddi'n fwyn in ymborth.
"Ond erbyn gweld y mor mawr draw,
Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;?Ac ofni'r ydym fod ein tad
Anwylfad wedi boddi.
"Ar fedd ein mam 'r ym 'nawr o hyd,
Mewn ing a gofid chwerw,?A hiraeth dwys am fod ein dau,
Fel hithau, wedi marw.
"A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw
Y Duw sy'n Dad amddifaid??Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
Mac Ef yn hael wrth weiniaid.
"Dywedodd mam mai yn y nef
Yr ydoedd Ef yn trigo:-?A d'wedodd llawer wrthym ni,
Heb os, ei bod hi yno.
"Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,?Hi dd'wed wrth Dduw am danom;?A disgwyl 'r ym y llwydda hi
Cyn hir i'w yrru atom."
Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau,
A sychu 'u gruddiau llwydion,?A dweyd,--"Fel mam, gofalaf fi
I'ch ymgeleddu'n dirion.
"Na wylwch mwy! Dewch gyda mi,
Rhof ichwi fwyd a dillad,?A dysg, a thy, a modd i fyw,
A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad.
"Efe yn fwyn a'm gyrrodd i
I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:?A diwedd pawb a'i carant Ef,
Yw mynd i'r nef i orffwys."
CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS.
Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,?Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad;?Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,?A'ch epil fo'n enwog dros lawer cenhedlaeth.?Disgleiried eich rhinwedd. A gwneled yr Arglwydd?Eich cylchoedd yn fendith,
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 37
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.