Gwaith Mynyddog. Cyfrol II | Page 8

Mynyddog
canghennau'r coed;?Yng ngolau'r nos, mewn mynwent laith,?'Roedd torrwr beddau wrth ei waith;?Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon,?A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron
A'r esgyrn dan ei droed.
Ymgodai'r gwynt,--a'i anadl ef?A fferrai lwynau natur gref,?A'r torrwr beddau yn ddifraw,?Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw,
Besychai am ryw hyd,?Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin;?'Roedd ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him,?Ac yna fe dynnodd ryw botel gron?O'i logell,--ond potel wag oedd hon;
A churai 'i ddaint ynghyd.
Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr,"?Y dafarn hyna'n y dref yn awr,?Fe chwyrnai'r tegell ar y tan,?A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd lan
Tra'n gorwedd ar gefn y ci.?'Roedd mab yr yswain yno mor hyf,?Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf,?A gwr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r aer,?A'r gof, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer,?Cyn dewed a dau o'r rhai tewa'n y wlad
Yn siarad a dau neu dri.
Y torrwr beddau edrychai'n glau,?A gwelai y goleu, a'r drws heb ei gau,?Ac yntau'n hen wr go lon yn ei ddydd?Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd,
'Doedd ryfedd fod arno fo flys;--?"Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton yn syn,--?"Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn,?A ch'letach fyth pan deimlwch chwi'ch hun?Yn taro ynghyd ag asgwrn pen dyn!?Felly 'rwy am fynd i'r 'Eryr Mawr,'?Mae'r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr."
Ac i mewn ag ef ar frys.
Fe wenai pawb wrth ei weled e'?Y torrwr beddau yn cymeryd ei le?O dan y fantell simnai fawr,?(A chwarddai y tan dan ruo'n awr),?Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef,?O fab yr yswain i'r tlota'n y dref.
"Wel, dowch a stori," ebe gwr y ty,?"Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu."?'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad?Adroddwr chwedlau yr holl wlad.?Fe wyddai am bob yspryd bron?Fu'n tramwy hyd y ddaear hon;?Fe fedrai ddychryn calon wan,?A'i gwneud yn ysgafn yn y fan;?Fe allai gau ac agor clwy',?A medrai ddynwared pawb yn y plwy'.
"Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd,?Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd,"
Ebe gwr y ty yn awr;?"Mae stori sych yn ddigon o bla?Os na fydd llymaid o ddiod dda
Yn helpu y stori lawr."
Y CHWEDL.
I.
Ar nos Nadolig oer a llaith,?Ers deugain o flynyddau maith,?Bu farw Harri Huws;--'roedd ef?Yn cael ei garu gan bawb trwy'r dref.?Bu ef i mi yn gyfaill pur.?A chalon gywir fel y dur,?A diwrnod tywyll, prudd ei wedd,?Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd.
Gadawodd eneth ysgafn droed?O'i ol,--yn un ar bymtheg oed;?'Roedd iechyd ar ei gruddiau cu,?A chwarddai serch o'i llygad du.?Bum i yn dysgu'r eneth hon?I ddweyd A B yn blentyn llon,?Ac wrth ei dysgu, credais i?Y dysgai'r ferch fy ngharu fi;?Ond ffoledd oedd i'r eneth dirion?I feddwl caru hen wr gwirion.
Daeth morwr llon i siarad a hi,?A dygodd fy Elen oddi arnaf fi,?Ond dd'wedais i air erioed wrth hon?O'r hyn a deimlais dan fy mron;?Na gair yn erbyn y morwr chwaith,?Oblegid hwy fuont am flynyddau maith?Yn chwareu a'u gilydd fel y mae plant?Ar ochr y bryn neu lan y nant;?Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu?Aeth y morwr ymaith ag Elen gu!
Nis gallaf ddirnad byth er hyn?Pa fodd yr aeth bore'i bywyd gwyn?O dan fath gwmwl, na pha fodd?Y daeth amheuaeth ag y todd
Gymeriad oedd mor bur;?'Doedd neb yn meddwl yn y wlad?Y buasai impyn tyner, mad,
Yn dwyn fath ffrwythau sur.
Agorai'r wawr ei hamrant clau,?Ac ymaith a fi ar ol y ddau,?A digwydd wnaethum fynd 'run ffordd,?Tra curai'm calon megis gordd,
Dan bwys briwedig fron;?Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd?Pa un ai gofid oedd yn gwneud?I'm dagrau redeg dros fy ngrudd,?Ai ynte ryw lawenydd prudd;?Ond rhedeg wnaethant fel y lli'?Pan ddaeth y newydd gynta 'i mi
Fod Mari'n wraig i John.
II.
Pan gwrddodd Mari gyda fi,?Ei dagrau redent fel y lli;?Hi deimlai'n ddedwydd ar un llaw,?Ac o'r tu arall, ofn a braw?A lanwai'i bron. Hi ddwedai'r oll?Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;?Agorai'i bron, can's roeddwn i?Yn gyfaill mebyd iddi hi.
Datodai glo ei chalon fawr,?A dwedai'i thywydd imi'n awr,?A'r fath onestrwydd yn ei phryd?Nes teimlwn i'm teimladau i gyd?Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon?A wnaent i minnau wenu'n llon,?A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli?A sugnent ddagrau 'nghalon i.
Ond pan yn tynnu tua phen?Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen?A ddwedai, gyda'i llygad du?Yn saethu teimlad ar bob tu,--?"O fel yr ofnwn wg fy mam,?Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam:?A balchder gyda thanllyd serch?A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.
"Priodi a wnaethum heb wybod i mam--?'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham;?Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan,?Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan??Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,?Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd?I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,?Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam.
"Hi allodd gau y drws a'i gloi?Ar ol ei merch, a medrodd droi?Clust fyddar at fy ymbil taer,?A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,--?'Gan iti fynnu'th ffordd bob cam,?A chroesi 'wyllys gref dy fam,?Dos gydag
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.