Gwaith Mynyddog. Cyfrol II | Page 9

Mynyddog
ef, yr hoeden ffol,?A phaid a dychwel byth yn ol.'"
Fe wylai Mari'n hidl fan hon,?Agorodd holl argaeau'i bron,?A d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur,?Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,?A wnewch chwi addaw'r funud hon?I gloi y chwedl yn eich bron
O wydd pob dyn trwy'r byd;?Er imi dynnu arnaf gam,?Ac er im' ddigio mynwes mam,
Fy mam oedd hi o hyd.
"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,?A holl dafodau'r lle yn mynd?Yn gyflym gyda'm hanes prudd,?A mam rhy falch o ddydd i ddydd?I geisio clirio'i geneth wen,?A cheisiai gadw i fyny'i phen?Drwy fynd i'r eglwys yn ei du,?Fel pe buasai'i geneth gu?Yn gorwedd yn ei thawel fedd,?Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd."
Un noson oer, mewn gaeaf du,?Eisteddwn ar fy aelwyd gu,?Gan wylio'r marwor mawn a choed?Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed,?Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd?Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.?Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol.?Pan yn ddisymwth o'm tu ol?'Roedd swn cerddediad!--pan y trois,?Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous,?A phwy oedd yno ger fy mron?Ond Mari a'i baban ar ei bron!
Ei llygaid gloewon, gleision, mawr,?A safent yn ei phen yn awr;--?Edrychai i'r tywyllwch prudd?Fel pe buasai'n gweld ynghudd?Ysbrydion ei mwynderau gynt?Yn gwibio o'i chylch ar gyflym hynt!?Dechreuai ddweyd ei chwyn a'i chais?Mewn math o anaearol lais,?A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen?Yn sefyll,--yn edrych,--a siarad o'm blaen.
"Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith,
Ac eilwaith trodd fi ffwrdd;?Yr unrhyw galed, oeraidd iaith,
Oedd yno yn fy nghwrdd.
"Mi ddaliais hyn fel arwr glew,?Can's 'roedd fy nghalon fel y rhew,?Ond pan y gwgodd f'anwyl fam?Wrth wel'd fy maban baeh dinam,?Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth--?Mae'r archoll hwnnw yno byth.
"Ac am fy ngwr--fy anwyl John,?'Roedd ef ar wyllt bellderau'r donn;?Un dydd wrth fynd am dro o'r dref,?Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef.?Nis gallswn weithio yn fy myw,?Na phlygu'm glin o flaen fy Nuw;?'Doedd dim ond troi yr adeg hon?A'm baban tyner ar fy mron?At mam;--ond honno, er fy nghur,?Oedd fel y garreg yn y mur.?Fy Nuw a wyr fel snddais i?O dan ei geiriau cerrig hi;?A'r oll o'm serch yr adeg hon?Oedd yn fy maban ar fy mron."
Fe beidiai Mari lefaru yn awr,?A minnau yn edrych yn syn ar y llawr;?Ac fel mewn eiliad--'roedd fy ffrynd?A'i baban serchus wedi mynd!
Deallais wedyn iddi droi
Ei gwyneb tua Llundain bell,?Pan nad oedd mam na neb i roi
I'w mab a hithau gynnes gell.?O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith?Ei theimlad ar y brif-ffordd faith,?Heb ddillad cynnes am ei chefn,?A'i chalon FU'n llawn serch drachefn,?Gan chwerw drallod, honno wnaed?Mor oer a'r brif-ffordd dan ei thraed.
'Roedd pob anadliad roddai hon?Yn sugno ochenaid ddofn o'r bron,?A phob cam roddai 'n tynnu gwaed?O'i thyner flin ddolurus draed.?O gam i gam, o awr i awr?Cyrhaeddyd wnaeth i'r ddinas fawr;?Ac ar y palmant caled, oer,?Llewygu wnaeth yng ngolau'r lloer.
Yr oedd hi'n nos, ac nid oedd neb?A sychai chwys ei dwyrudd wleb?Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef?Ond chwiban heibio hyd y dref.?Ond pan oreurai'r wawr y ne'?Daeth rhyw Samaritan i'r lle,?A chodai hi fel delw wen,?A rhoddai bwys ei thyner ben
Ar fron tosturi,--a'r baban bach?A gysgai hun ddiniwaid iach,?Ar hyd y nos flinderus faith?Ar fron mor oer a'r garreg laith.
Aeth ef a'r ddau yn ol i'w dy,?A'i wraig drugarog, serchus, gu,?A'u hymgeleddai gyda serch?A chydymdeimlad calon merch,?Gwreichionen olaf bywyd brau?Gyneuai'n ol dan law y ddau.
Deffroai Mari gyda hyn?I gael ei hun mewn gwely gwyn,?A gwen trugaredd uwch ei phen?Yn edrych ar ei dwyrudd wen.
Nid oedd gan wr a gwraig y ty?(Lle dodwyd Mari),--blentyn cu,?A gall mai dyna'r rheswm pam?Y carai'r rheiny gael y fam,?Er mwyn cael gwylio'i baban bach?Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach.
Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd,?A rhosyn iechyd ar ei rudd,?A gweithiai'r fam a chalon rwydd?Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd?Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn,?A'i serch ymglymai o gylch hwn.

Awn heibio i flynyddau maith,--?Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith,?Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn?Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.
Edrycha'i llanc yn hoew a chryf,?A'i natur fywiog, hoenus, hyf,?A godai awydd yn ei fron?I fynd yn forwr nwyfus, llon;?Dychmygai nad oedd unrhyw ddor?Yn agor iddo ond y mor.
Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin,?Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min,?A'r bore ddaeth i'r llanc dinam?I rwygo'i hun oddiwrth ei fam.
III.
Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd?I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;?"Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon,?A diolch a gweddi yn llanw ei fron:?"Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam,?Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?"?Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn,?"Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn?Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,?Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,"?'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,?Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;?Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy?'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.
Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn,?Yn ymladd
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 22
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.