Gwaith Alun | Page 9

Alun
yr Ion,?Galonnau ein gelynion?I droedio wrth ddeddf dradoeth;?Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth.?Felly yn awr, dan wawr well,?Pob un ant tua'u pabell;?Nef uchod rhoed Naf i chwi,--?Mewn heddwch dychwelwch chwi."
Tra llefarodd, troell fawrwych?Anian droes yn iawn ei drych;?Y dymer ydoedd dwymyn?Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn.?Gwelent ei drwg--amlwg oedd,?A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd;?Ust! tawelynt drwyddynt draw,?O dawelwch, doi wylaw.?'Nawr o'u dwrn yn ara' deg?Parai gwir gwymp i'r garreg;?Trwst y main, a'r ubain rhwydd?Dwys, a dorrai'r distawrwydd.?Yna'r gynulleidfa'n llon?Ddychwelent--(gwedd a chalon?Eto'n awr yn gytun oedd,)?Law yn llaw, lonna lluoedd.
Cyrraedd Ystrad Alun.
Dau gennad gwyn! Wedi gwyl?Hwy gyrchent at eu gorchwyl.?Llafurient a'u holl fwriad,?Dan Ior i oleuo'r wlad;?A'i dwyn hi dan ordinhad?Da reol, o'i dirywiad;?Dan y gwaith heb lid na gwg,?Trwy erlid, ymlid amlwg,?Doent wrth deithio bro a bryn,?I olwg Ystrad Alun;?Elai'r gwyr, gan eilio'r gan,?Drwy Faelor, oror eirian.?Hwyr hithau ddwyrai weithion,?Llwydai fry ddillad y fron;?Ucheron, {53} uwch ei chaerydd,?A'i t'wysai, pan darfai dydd;?Y lloer, a'i mantell arian,?Ddeuai un modd, yn y man;?Daeth o le i le fel hyn?Y faith yrfa i'w therfyn;?Nawdd Ior, ac arweinydd ddug?Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug:?Lletyent mewn lle tawel,?Trigle der a mangre mel;?Lle addas y lluyddwr?Rhufon, oedd yn union wr;?Un crefyddol, dduwiol ddawn,?Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn;?Iachawdwr, a braich ydoedd,?Ac anadl ei genedl oedd;?I'w ardal deg, ateg oedd,?Llywiawdwr ei llu ydoedd;?Dau noddwr duwinyddiaeth,?Arfolli, noddi a wnaeth;?Eu siarad, am rad yr oedd,?A mesurau'r amseroedd;?Gwael greifion y goelgrefydd,?Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;?A bro a'i hedd i barhau,?Uwch annedwydd och'neidiau;?Y duwiol hyfrydol fron?Ddiddenid a'u 'mddiddanion;?Rhufon er hynny'n rhyfedd,?Oedd o ddirgel isel wedd;?Son am loes sy'n aml isod,?A chael rhan uwchlaw y rhod,?Wnae'i fron der, yn nyfnder nod,?Chwyddo o ebwch ddiwybod;?Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,?A ddeifiodd rhyw ddu ofid;?A dygai'r llef y deigr llaith?I'r golwg, 'nawr ac eilwaith.?'Roedd gwaelod y trallod trwch?I wyr Gallia'n ddirgelwch;?Hwy sylwent mai isel-wan?A dwl, oedd ei briod lan;?Beth fu'r anferth ryferthwy?Ni wyddent--ni holent hwy.
Yna, a'u bron heb un braw,?Hwy wahanent i hunaw;?Pwys y daith, mor faith a fu,?A'i gwasgodd hwynt i gysgu:?Edyn Ion, rhag troion trwch,?A'u mantellynt, mewn t'wllwch.
Yn bur a gwyneb araul,?Cwnnu yr oedd cyn yr haul?Y ddau deg, ddifreg o fryd,?A Rhufon hawddgar hefyd;?Rhodient i wrando'r hedydd?Gydag awel dawel dydd,?Hyd ddeiliog lennydd Alun,?I weld urddas glas y glyn;?Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth?Yn dilyn hyd y dalaeth;?Y gro man ac rhai meini,?Yn hual ei hoewal hi.
Agorir dorau goror y dwyrain,?Yna Aurora sydd yn arwyrain;?Nifwl ni 'merys o flaen ei mirain?Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg buain,?Ewybr o gylch y wybr gain--teifl gwrel,?A lliwia argel a'i mantell eurgain.
Yna deffrodd awelon y dyffryn,?Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun;?Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn,?Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,?D'ai lliw y rhod oll ar hyn--fel porffor,?A goror Maelor fel gwawr aur melyn.
Ar ei hadain, y seingar ehedydd?Fwria'i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;?Deffroai gantorion llon y llwynydd?I bereiddio awelon boreu-ddydd,--?A pher wawd i'w Creawdydd,--trwy'r wiw-nen,?O ferion awen,--am foreu newydd.
Bwrid ar hyn heb eiriach,?Ganiadau o bigau bach;?Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,--?Caniadau rhwng cangau'r coed;?Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,?Trwsio'i phlu a chanu'i chainc.
Yna llon ganai llinos--i gynnal
Cerdd geinwech yr eos,?Ymorau heb ymaros,?I Geli am noddi'r nos.
A seiniai, pynciau pob pig?I'w Creawdwr caredig;?Nes yr aeth yn mhen ennyd?Yr wybr fan yn gan i gyd.
Esgynnent, troent eu tri?I balawg Fryn y Beili,?I weld y wlad,--ferthwlad fau,--?Rhedai Alun trwy'i dolau?Dyffrynol, breiniol a bras,?Oll yn hardd a llawn urddas;?Duw Celi oedd gwedi gwau?'N gywrain eu dillad gorau;?Deor myrr, neithdar, a mel,?Yn rhywiog a wnae'r awel;?Aroglai'r manwydd briglas,?Y bau a'i chwrlidau'n las;?A diffrwyth lysiau'r dyffryn?Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.?Ebrwydd, y corn boreubryd?Alwai 'ngwrth y teulu nghyd;?Teulu y castell telaid,?'Nol porthi, mewn gweddi gaid.
Rhufon a yrrai hefyd?Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd,?Am neges em enwogion?I weled tir y wlad hon,--?Yr eilient yn ochr Alun?Araeth am gadwraeth dyn;?A'u bod am weini bedydd?Yn ael y dwfr, ganol dydd;?Ag awydd ferth, gweddai fod?Bawb ynaw a'u babanod;?Mai bechan y Llan oll oedd?I gynnwys amryw gannoedd.
Gofid Rhufon.
Felly aent o'r arfoll hon?Eu tri, i'r gerddi gwyrddion;?Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,?Gwedi 'i gwau gyda gwiail;?Ei lloriau, a gleiniau glwys,?B'rwydid fel ail Baradwys;?Sonient, with aros yno,?Am och a brad,--am uwch bro,--?Lle na ddel gwyll neu ddolef,--?Am urdd yn Nuw,--am ardd Nef,--?Gardd o oesol radol rin,?A'i haberoedd yn bur-win.
Rhufon, dan ofid rhyfawr,?Ni ddywedai--ofynnai fawr;?Danghosai' liw, nid gwiw gwad,?Loes erwin uwchlaw siarad;?O'r diwedd, 'nol hir dewi,?Ochenaid, a llygaid lli,?A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd,?O'i lygaid yn wlawogydd,--?Tan grynnu'i fant yn graen, fo?Gwynai alaeth gan wylo,
"Enwogiawn, mi wn agos?Rhaid i 'null ar hyd y nos?Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,?Drwy'r galon draw o'r golwg;?Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,?Llychwinodd aml ochenaid;?Grym y groes, a dagrau'm gwraig,?Dyrr wen y diarynaig.?Mynegaf i'm henwogion?Hanes fy mriw--naws fy mron,?A'r achos o'm hir ochi,--?Yr oedd mab iraidd i mi;?Delw i'r holl ardaloedd,--?Eu tegwch a'u harddwch oedd;?'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,?A'i lun nerthol yn wyrthiau;?A gwen hoff lawen a fflwch,?Ireiddiwch ar ei ruddiau.
"Dau lygad ei dad ydoedd,?Un enaid a'i enaid oedd;?Rhyw adyn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 24
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.