The Project Gutenberg eBook, Gwaith Alun, by Alun, Edited by Owen M. Edwards, Illustrated by John Thomas
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.net
Title: Gwaith Alun
Author: Alun
Release Date: February 1, 2005 [eBook #14865]
Language: Welsh
Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH ALUN***
Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email
[email protected]
GWAITH ALUN
[John Blackwell (Alun): alun0a.jpg]
[Gwaith Alun: alun0b.jpg]
Rhagymadrodd.
Ganwyd John Blackwell (Alun) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i'r seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen.
Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n aml i Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.
Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.
Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.
Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.
Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.
Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y Cylchgrawn, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a phur. Yr oedd y Gwladgarwr eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais. Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.
Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.
Eos Cymru oedd Alun,--yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei genedl.
OWEN M. EDWARDS.?Ebrill 9, 1909.
Cynhwysiad.
[Ceisiwyd trefnu'r darnau mor agos ag y gellid i'w trefn amseryddol.]
I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.
Iddo Ef?Angau?Cymdeithas Caer?Dau Englyn Priodas?Genedigaeth Iorwerth II.?Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr?Llwydd Groeg?Eisteddfod Caerwys?Dafydd Ionawr?Gwyl Ddewi?Eisteddfod y Wydderug?Rhywun?Maes Garmon
II. ABERIW. 1824.
Bywyd yn Aberiw?Ifor Ceri?Emyn Pasg?Englyn i Ofyddes?A Pha Le Mae? (Cyf.)?Eisteddfod y Trallwm?Caroline?Beddargraff?Bugeilgerdd?Yr Hen Amser Gynt?I --?Gadael Rhiw
III. RHYDYCHEN. 1825-1828.
At Gyfaill?College Life?At Lenor?Telyn Cymru?At ei Rieni?Cywydd y Gwahawdd?Disadvantages and Aims?Calvinism?At ei Fam, pan oedd Weddw?Cwyn ar ol Cyfaill?Marwolaeth Heber?Seren Bethlehem
IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.
At Manor Deifi?Cathl yr Eos?Abad-dy Tintern?Can Gwraig y Pysgotwr?Y Ddeilen Grin
Y Darluniau.
ALUN
"Does destyn gwiw i'm can,?Ond cariad f' Arglwydd glan."
COLOFN MAES GARMON--S. MAURICE JONES.
CARTREF MEBYD ALUN--S. MAURICE JONES.
CASTELL CONWY {1a}
"Ar furiau tref ai rhaid trin?Anhoff astalch a ffestin?"
MARATHON
"Gwnawn weunydd a llwynydd llon,?Mawr hwythau, fel Marathon"
CAERWYS {1b}
"Lluman arfoll Minerfa?Sydd uwch Caerwys ddilys dda."
RHYWUN {1c}
"Gwyn ac oer yw eira Berwyn."
UN O HEOLYDD CAERWYS
"Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd."
YR AMSER GYNT {1d}
"Bu'n hoffi mi, wrth deithio 'mhell?Gael croesaw ar fy hynt."
GWRAIG Y PYSGOTWR
"Dwndwr daear sydd yn darfod,?Cysga dithau ar dy dywod."
Rhai Geiriau.
[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun yw hwnnw.]
Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus; "treiglo abred," mynd trwy holl dro trawsfudiad.
Arfeddyd, bwriad, amcan.
Balawg, uchel.
Brathawg, apt to stab, assassinating.
Breila, breilw, rhosyn.
Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.
Callawr, crochan.
Deddyw, daeth.
Diachreth, di-gryn, cadarn.
Diarynaig, hero
Digrawn, llifol, heb gronni
Digyrrith, hael, caredig.
Dyheuent, gasping for breath.
Dyspaidiad, in the intermission.
Eiriach, cynhilo
Elwch, llawenydd, gorfoledd.
Enrhaith, fellows.
Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.
Fflwch, llawn; buan.
Galon, gelynion.
Germain, shout.
Gofynaig, cais.
Gorthaw, distawrwydd, amynedd.
Gwawrwalch, a valiant man, a hero.
Graid, fire, urgency.
Gryw, Greek.
Gwaladr, tywysog, rheolwr.
Gyrr, attack, onset.
Hadledd, dirywiad, dinistr.
Heng, gwth, taith orfod.
Hirell, gleams of light.
Huddug, tywyll, trist.
Hwi'n golofn, form into a column.
Loes gwefrawl, electrical shock.
Lleuai, read.
Main, meini.
Mwd, tan y to, nenfwd.
Nwyfre, awyr, nef.
Rhialyd, natur,