Gwaith Alun | Page 8

Alun
eirf dig eu gorfod oedd,?Gorfodaeth braich gref ydoedd;?Hwn gadd glod a gorfodaeth?Heb ergyd na syflyd saeth;?I lu duwiol a diarf?Yn wyrth oedd,--ac heb nerth arf;?Duw yn blaid, a wnae eu bloedd?Heibio i ddawn y byddinoedd.
Hwyrddydd ar y Mor.
Y dwthwn 'raeth cymdeithas?Gwyr Rhufain, o Frydain fras,?Ar hwyrddydd o ryw harddaf,?Mwyna 'rioed yn min yr haf;?E giliai'r haul, glauar hin,?Ag aur lliwiai'r Gorllewin;?Goreurai gyrrau oerion,?Ferwawg a del frig y donn;?Holl natur llawen ytoedd,?Ystwr, na dwndwr, nid oedd;?Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg?Llorf dannau y tonnau teg;?A'r tawel ddof awelon,?Awyr deg ar warr y donn;?Ton ar don yn ymdaenu,?Holl anian mewn cyngan cu,?Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,?Ac armel o flaen gwermod;?Cwmwl dwl yn adeiliaw,?Oedd i'w weled fel lled llaw.
Tymhestl.
Ael wybren, oedd oleubryd,--a guddid
Gan gaddug dychrynllyd,--?Enynnai yr un ennyd,?Fel anferth goelcerth i gyd.?Mor a thir a'u mawrwaith oedd,?Yn awr, fal mawr ryfeloedd;?Mawr eigion yn ymrwygo,?Ar fol ei gryf wely gro;?Archai--gan guro'i erchwyn,?A'i dwrw ffrom--dorri ei ffrwyn;?Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd,?At y Nef yn estyn oedd;?Dynoethid yna weithion,?Draw i'r dydd, odreu'r donn;?Dodwodd y cwmwl dudew?Ei genllysg i'r terfysg tew;?A'r gwyntoedd rwygent entyrch,?Neifion deifl i'r Nef yn dyrch;?Deuai nos i doi y nen,?Duai'n ebrwydd dan wybren;?Ac o'r erchyll dywyll do?Tan a mellt yn ymwylltio;?Taranent nes torwynnu?Y llynclyn diderfyn du.
Yn mysg y terfysg twrf-faith?Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,?Yn morio yn erbyn mawr-wynt,--?Mor yn dygyfor, a'r gwynt?Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig,?A'r llyw ydoedd ddrylliedig;?Mynedyddion mwyn doddynt,?Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt;?Llef irad a llygad lli,?Y galon ddewra'n gwelwi;?Anobaith do'i wynebau,?Ac ofn dor y gwyllt-for gau,?Gwynnodd pob gwep gan gynni,--?Llewygent,--crynent rhag cri?Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd,?"Ysturmant yr ystormydd!"?A mawrwych galon morwr,?Llawn o dan, droai'n llyn dwr;?Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O!?A chan elwch yn wylo.
Garmon a Bleiddan.
Yn mawr swn ymrysonau?'R tro, 'roedd yno ryw ddau?Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,?A chanent heb ochenaid:?Un Garmon, gelyn gormail,?A Bleiddan ddiddan oedd ail;?Gwelent drigfannau gwiwlon,?Ac iach le teg, uwchlaw tonn,--?Lle nad oes loes, fel isod,?Nac un westl dymestl yn dod;?Eiddunent hwy Dduw anian,--?Traethaf a gofiaf o'r gan.
"Hyd atad, ein Duw, eto,?Dyneswn, edrychwn dro;?Rhown i ti, rhwng cernau tonn,?Hael Geli, fawl o galon;?Rhued nawf, nis rhaid i ni,?Uwch ei safn, achos ofni:?Y lli dwfr sy'n y llaw dau,--?Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau.
"Ti yw arweinydd y taranau,?Tefli y sythion fellt fel saethau,--?Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau?Anwar dymestl,--mae'n wir diamau:?Yng nghynnen yr elfennau--rhoddi'r gwynt,?Gelwi gorwynt,--neu gloi ei gaerau.
"Y mor uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau,?Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;?Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,?Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;?Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,--yn sydyn,?Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.
"Pa ragor in' for yn fedd?Na gwaun dir i gnawd orwedd??Cawn i'th gol o farwol fyd,?Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,--?Mae'n calon yn boddloni?I uniawn drefn Un yn Dri."
Pan ar ben gorffen y gan?Y terfynai twrf anian;?Clywai'r Un sy'n cloriannu?Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du:?Arafodd, llaesodd y lli,?Trychineb, a'r trochioni;?Mor a nen ymyrrai'n ol,?I ddistawrwydd ystyriol;?Deuai hwyl a da helynt?Y donn yn gyson a'r gwynt;?Mewn un llais rhoent hymnau'n llon,?I'r hwn a roes yr hinon;?Yna y chwai dorrai dydd,--?Dyna lan Prydain lonydd.?Doe'r llong, ar ddiddan waneg,?I ben y daith--Albion deg.
Prydain yn 429.
Hil Gomer yr amser hyn,?Oedd o nodwedd anhydyn;?Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth,?Mawr gynnen, a Morganiaeth;?Gwyr digariad i'w goror,?Lanwai a cham, lan a chor:?Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd?A choelion am uchelwydd;?Gwadu Crist, neu gydio'u cred?Ar glebr am "dreiglo abred";?Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,?Ruthrent, lunient alanas;?A Phrydain heb undeb oedd,?Na llyw wrth ben ei lluoedd;?Y llysoedd, yn lle iesin?Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin;?Brad amlwg, a brwd ymladd,?Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,?Wnae Albion,--a'u troion trwch?Yn ail i ryw anialwch.
Taith y ddau.
Y teulu apostolaidd?Eu bron, cyn gorffwyso braidd,?Drwy'r wlad, ar waith clodadwy?Eu Tad, ymegnient hwy.
Gan foreu godi,--rhoddi'n rhwyddion?Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;?Digyrith bleidio gwirion--rhag gwrthdrin,?Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion.
Cynhadledd a'r Morganiaid.
Iselaidd furiau Salem?Godent, ac urddent a gem;?A gem y ddau ddegymydd,?Fu aur a ffurf y wir ffydd;?Gemau'r gair, disglair, dwys,?Yw parwydydd Paradwys;?Er gogan, a phob anair,?Dysgent, pregethent y gair,?Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,--?Taro'r annuw trwy'r enaid:?Lle blin a hyll o'u blaen oedd,?Ail Eden o'u hol ydoedd;?O flaen rhain, diflannu'r oedd?Heresiau mwya'r oesoedd;?Tost iawn chwedl i genedl gam?Fu'r holiad yn Verulam:?Ugeiniau o'r Morganiaid,?Ddynion blwng, oedd yno'n blaid:?Llwyddai Ion y dynion da,?Er c'wilydd Agricola;?Ar air Ion, i lawr yr aeth?Muriau gweinion Morganiaeth.
Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;?Ymagorai'r magwrydd,?Gwelen' deg oleuni dydd.
Morganiaid er mawr gynnwrf,?Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;?Yna'r dorf anwar a dig,?At y gwyr godent gerrig,--?A mynnent bwyo 'mennydd?Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd!?Ond y graslon Garmon gu?A ataliodd y teulu:?Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,--?"Clywch! eon, ry eon rai!?Pwyllwch, arafwch rywfaint!?Godde' sy'n gweddu i saint;?I'n Duw y perthyn dial,--?I'r annuw ein Duw a dal;?Par ei farn am bob rhyw fai,?Llaw dialedd lle dylai.?Ond cafodd fodd i faddau,--?Drwy gur un--gall drugarhau;?Y garw boen, hyd gaerau bedd,?Agorai gell trugaredd;?A'n harch gwir, i lenwi'r wlad?Yn farn am gyfeiliornad,?Yw troi, o ras ter
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 24
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.