Gwaith Alun | Page 6

Alun
ei mynwesydd,?Megis chwaer ddisglaer i ddydd;?Aml y lle, ym mol ei llawr,?A mannau'r harddaf mynawr;?Hemaetus felus y fydd,?A diliau mel ei dolydd;?A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt,?Di-odid mai da ydynt.?Holl natur bur heb wyro,?Sy'r un fraint i'r seirian fro,?A phan oedd, yn hoff ei nerth,?Briod-fan pob dawn brydferth.
"Yma gwir Ryddid, a'i myg aur roddion,?Sef celfyddydau a doniau dynion:?Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion,?A gair odiaethawl i'w gorau doethion,?A wnaent gynt i helynt hon--anrhydedd,?Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."
Wrth eu haraith, effaith ddig,?Dawn y wlad, yn weledig,?Fal yspryd tanllyd o'u tu,?A wnae'n anadl enynnu,--?Gan ddangos, yn achos Ner,?A'i fendith, a'i gyfiawnder,?Y mawr fri o dorri'r did,?I ymroddi am Ryddid.
Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,?Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth,?A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,?Draw a hwylient i Droia ehelaeth,?Os y goll o Ryddid sy' gwaeth--na'r hen?Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?
Hen anghrist, un athrist oedd,?O'r tu arall i'r tiroedd,?A gododd,--gwaethodd drwy'r gad,?Ar filoedd i'w rhyfeliad:?Un oedd o'r rhai aneddant?Uffern boeth yn ei ffwrn bant,--?Hoffai lid a gofid gau,?A'i llwydd ydoedd lladdiadau;?Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,?Gwenwynig, (gwae anhunedd)?Ei gwallt oedd,--a gwyllt eiddig,?Rhag hedd oedd dannedd ei dig;?Ei llygaid yn danbaid des?Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;?A'u sylwedd, o'r iseloedd,?A'u mawr lid, tra marwawl oedd.
O! pa ryfel, a'i uchel ochain,?Dial a'i ofid, a dolefain,?O'i chodiad irad yn y Dwyrain,
'Fu'r un baich i fawrion a bychain;?Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd,?Dieneidiodd o dan ei hadain.
Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad,?Yn 'diwedd, roi wrandawiad?I'w blant,--pan godent eu bloedd,?Dan ofid hyd y nefoedd:?O Scio wylo, alaeth,?I'w glustiau'n ddiau a ddaeth;?A rhoes, Ior y Groes, ar gri,?Dyst eirian o'i dosturi;?D'ai'n gymorth, da borth di-baid,?Nes i ryw'r Nazareaid,?Rai marwawl, er eu muriau,?Ac erfyn eu gelyn gau.
Angylion, genadon gwynion gannoedd,?Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd,?Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd?I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,?Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd--pan welent,?Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.
Yn awr (a Duw'n ei wiriaw)?Golygwn ddwthwn a ddaw,--?Pan deflir, lluchir i'r llawr?Ddu arfawg anghrist ddirfawr;?A phan gair, yn hoff ei gwedd,?Gaer enwawg i'r gwirionedd:?Drwy reol gwydrau'r awen,?Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;--?Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,?Pan gant y feddiant a fu?O ddiwall wlad addewid,?Heb gaethder, llymder, na llid.
Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd?Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;?Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,?A Gorllewin ei gorau lluoedd;?Un fwriad a niferoedd--y fawr-blaid?O Groesadiaid, ac eres ydoedd.
Bydd ar dyrau Salem furiau,?Y banerau yn ben arwydd,?I'r tylwythau, ar eu teithiau?I le'u tadau, olud dedwydd;?Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,--dyrchefir?Ac eres welir y Groes hylwydd.
A thi, Roeg, a'th ddaear wych,?A'th awyr brydferth hoew-wych,?A welir eto eilwaith,?Fal gynt, er rhyfelawg waith,?Yn llwyddo'n fronlle addysg,?A lle llawn pob dawn a dysg;?Byddi, heb nam, yn fam faeth?I rinwedd--i wroniaeth--?I ddidwyll gelfyddydau,?Pob llwydd, a wna pawb wellhau;?I bob mad gariad gwladawl,?A fu gynt dy fwya' gwawl.
Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,?Dy awen, llwynydd, dy winllanau,?Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,?Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;?Sparta hen, Athen hithau--a gant lwydd,?A fydd ddedwydd o gelfyddydau.
Darlunir hyd ar lenni,?A mynnir, gwn, o'th meini?Gelfyddyd byd heb oedi;?Y dynion a adweini,?Yn rhediad eu mawrhydi,?Yn eil-oes, gwnn, a weli;?Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,?Fodd uniawn, a feddieni.
Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto
Iti a chalondid:?Yn y byd hwn, na boed tid?Dan nefoedd yn dynn ofid.
Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth
Ddi-ledryw gwlad Alffred,?A'i moliant i ymweled?A thir y Gryw, a thrwy Gred.
Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn
A llywodraeth wladawl,?Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl?Gair yr Iesu, gwir rasawl.
A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,?Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch:?I ni y mae digon yma o degwch?Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch;?Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau,?Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch.
HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd,
Rhowch fyrddau 'ni wledda;?Lluman arfoll Minerfa?Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,--?Er braw, anhylaw helynt,?Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;?Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,?Awr i Gaerwys ragori.
[Caerwys. "Er braw, anhylaw helynt,?Nyth y gain farddoniaeth gynt.": alun40.jpg]
[Un O Heolydd Caerwys. "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg]
DAFYDD IONAWR.
Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.
Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd
Gan IONAWR o'i hamharch;?Hefelydd i glaf alarch?A'i mawl yw yn ymyl arch.
GWYL DDEWI.
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.
Ton,--"Ar hyd y Nos."
Trystio arfau tros y terfyn,?Corn yn deffro cawri y dyffryn,--?Tanio celloedd--gwaed yn colli,?Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri?I'r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar hyd y nos.
Heddyw darfu ystryw estron,?Ellyll hwyr, a chyllill hirion;?Saeson fu'n elynion inni,?Heno gwisgant genin gwisgi--?Law-law'n dawel Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos.
Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan?Rhwygo awyr a goroian--?Swn telynau--adsain llethri--?O Blumlumon i Eryri--?Gwalia ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,'
Ar hyd y wlad.
Felly ninnau rhoddwn fonllef?Peraidd lais ac adlais cydlef;?Rhaid i'r galon wirion oeri?Cyn'r anghofiwn wlad ein geni,?Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
Ar hyd y
Continue reading on your phone by scaning this QR Code

 / 24
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.