wehelyth,?Cymro boed i'r Cymry byth!'?Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin?Iau ar warr un o'r werin!?Daw'r telynau, mwythau myg,?Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;?Rhed awen, er id wahardd,?Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;?Gwnant glymau a rhwymau rhom,?Enynnant y tan ynnom;?Dibrin pawb oll dadebrant,--?Heb ochel, i ryfel 'r ant;?A'n mynwes yn lloches llid,?Ein harwyddair fydd 'Rhyddid!'
"Ag arfau ni wna'n gorfod?Tra'n creigiau a'n bylchau'n bod;?Cariwn mewn cof trwy'r cweryl,?Y'mhob bwlch, am Thermopyl;?Gwnawn weunydd a llwynydd llon,?Mawr hwythau, fel Marathon;?Yn benaf llefwn beunydd,--?'Marw neu roi Cymru'n rhydd?'
"Os colli'n gwlad, anfad wyd,?O'r diwedd dan ruddfan raid,--?Yn lle trefn, cei pob lle troed,?Wedi ei gochi a'n gwaed;?Trenga'n meibion dewrion dig,?A llawryf am y llurig.
"Yn enw Crist eneiniog--ymroddaf
Am ryddid ardderchog;?A'r un Crist fu ar bren crog,?Ni ymedy a Madog."
E daw ar hyn,--d'ai ar ol?Ryw ddistawrwydd ystyriol.?Ac Iorwerth, ar y geiriau,?Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;?Malais y Sais, echrys wg,?A welid yn ei olwg.
Tyb Euraid Ap Ifor.
O ryw fuddiol arfeddyd,--rhoi'n rhagor?Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,--
"Hyf agwrdd bendefigion,?Rhy brysur yw'r antur hon;?Ar furiau tref, ai rhaid trin?Anhoff astalch a ffestin??Mae llid yn fy mron hynaws,?At Saeson, a'u troion traws;?Ond serch, a glywserch i'm gwlad,?O'm calon a rwyddlon red;?Na ato fyth, etwa fod?Neint hon yn gochion i gyd,--?Arafwn,--o'r tro rhyfedd?Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;?E ddaw ergyd ddiwyrgam,?Lawn cur, i ddial ein cam;?Ac hefyd dylid cofio,--?Er prudded, trymed y tro,--?Er angeu'r gair fu rhyngom,?'R amodau, rhwymau fu rho'm:?Pan roddo Gymro y gair,?Hwnnw erys yn wir-air;?Ei air fydd, beunydd heb ball,?Yn wir, fel llw un arall:?Ein hynys hon i estron aeth,?A chyfan o'n gwiw uchafiaeth;?Ond ni throes awch loes, na chledd,?Erioed mo ein hanrhydedd;?A'n hurddas a wnawn arddel,?Y dydd hwn, a doed a ddel:?Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,?Ar Dduw a'i wir addewid.?Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,?Y diwedd, o'r hadledd hwn;?Heddyw, oedwn ddywedyd?Ein barn, yn gadarn i gyd;?Profwn beth dd'wed ein prif-fardd,--?Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;--?Pa lwyddiant, yn nhyb Bleddyn,?A ddigwydd o herwydd hyn?"
Amneidient mewn munudyn?Ar yr ethol ddoniol ddyn,--?Yna, a phwys ar ben ei ffon,?Y gwelid y gwr gwiwlon:
Ei farf fel glan arian oedd,--mewn urddas,?Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;?Yn null beirdd, enillai barch,--ar bob peth?E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.
Proffwydoliaeth Bleddyn.
D'wedai, agorai'r gwir-air,--?"Clyw frenin gerwin, y gair!?'R hyn ddaw, trwy fy llaw i'r llys,?Duw y dynged a'i dengys;?Am ennyn aer mwy na neb,?Troi a chynnal trychineb,?Gwneyd ochain yn seilfain sedd,--?Rhoi dy wersyll ar d'orsedd!?Am ddifrodi, llosgi, lladd,?Brad amlwg, a brwd ymladd;?A rhoi bro, mewn taro tynn,?I wylo am Lywelyn:--?(Iachawdwr a braich ydoedd,?Ac anadl ein cenedl oedd;)?Fel y rhoist gur, mesur maith,?Y telir i ti eilwaith.?O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,?Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.?Hwn geraist yn lle gwirawd,--?Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi cnawd.
Y mae maith och mam a thad,?Gwaedd a chur gweddw a chariad,--?A main lle mae ymenydd?Llawer dewr, a gollai'r dydd,--?Temlau, ac aneddau'n wag,?Yn rhoi manwl air mynag,--?I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,--?Iddo gael buddugoliaeth:?Ond llion mawrion am hyn?O ddialedd a ddilyn.
"Awr na feddyli, daw'r nef ddialydd,?Dy waed oera ar dywod y Werydd;?Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,?Hon a'th boena--gyrr ddrain i'th obenydd;?Caiff Brython gwirion dan gerydd--fyw'n llon,?Eu muriau'n llawnion, a marw'n llonydd.
"A gwaeth nac oll a wnaethost,?Mewn du far mynni dy fost,--?Gwenaist pan gwelaist galon?Wiw a phur ar waew-ffon!?Ti ddigred, ni roist ddeigryn?Yn y lle yr wylwyd llyn!?Llanwaist gron goron a gwaed,?Ac arall yf y gorwaed!?Clyw'n swn!--mwd Bercley'n seinio, {26}?Dychryn i'w ganlyn ac O!?Marwol loesion bron Brenin,?Tan grafangau bleiddiau blin.?Hyfryd dduwiesau Hafren,?Pan glywant a wisgant wen.
Daw blwyddau llid a bloeddiad,?Du hin, ar warthaf dy had!?Clyw! ddolefau, briwiau bron,?O'r Twr Gwyn {27} mae'r taer gwynion;?Dy hilion, mewn du alaeth,?O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!?A mynych gwna cromeni?Y Twr cras watwor eu cri:?Ni adewir o'r diwedd?Wr o dy sil ar dy sedd.
"Ha! ha! 'r dwyrain egyr ei dorau,--?Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau?Creigydd, moelydd, a du gymylau??Nage, gwawrddydd glan, eirian oriau,?Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;?Gwelwch Gymru ar fynydd golau,?A'n iach wyrion o'i chylch yn chwarau,?(Rhos sy' o danynt ar sidanau,)?Hust! ust! ust!--mae'n dyfod i'm clustiau,?Gathl enwog oddiar ei thelynau,--?Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,?Yn dorf bloeddiant,--'Wi! darfu blwyddau?Yr ochain anwar a chynhennau;'--?Par y don i'm hyspryd innau--roi llam,?Mwy e grychneidia'm gorwych nwydau.
"Daw dyddiau mad a diddan,?A mawr lwydd i Gymru lan;?Dyddiau bwrcaswyd iddi,?Ar dy ddichell dywell di;?O Dduw Ner daw'r hoewder hwn,?I'n Duw eilchwyl diolchwn:?Derfydd amser blyngder blin,?Curaw tymhestlog gerwin.?Daw hinon a daioni?O dy drais, na's tybiaist ti;?Bydd cof mewn gwledd am heddyw,?A chlod am it' fod yn fyw:?Iach amrant Lloegr a Chymru,?Daw'r ddwy-wlad mewn cariad cu;?Yna'n y ddwy mwy ni ddel,?I'w trefi helynt rhyfel;?Un llys fydd drwy'n hynys hon,?Una'i gwyr dan un goron;?Unant nerth, rhag rhyferthwy,?Un reddf ac un ddeddf i'r ddwy;?Un Duw arnynt, un deyrnas,?Un lluoedd, un floedd, un flas:?Gwelaf Frython, {28}--'rwy'n llonni,?Yn eistedd ar d'orsedd di!?Ac o ystlys a gwestle,?Y gyllell hir gyll ei lle:?A o gof ymladdau gant,?Eu hing hefyd anghofiant;?Cant gyd-fwynhau breintiau braf,?Law-law i'r genedl olaf:?Lle gwelwyd twyll a galar,?Echrys
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.