wlad.
EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.
AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.
Wyddgrug, Awst 16eg, 1823.
Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.
Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.
Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.--Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.
Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mad;?Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.
Wrth olygu'th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,?'Mhell uwchlaw syniadau bydol--
Erfyn it' fendithion Nef?
Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;?Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.
Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,?Ddangos oedran diniweidrwydd,--
Gwisged bob lledneisrwydd llon.
Dy wefus sydd wrth ei chusanu
'N ail i rosyn teg ei liw,--?Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.
Na wna achos wylo defnyn
O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,?Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i'w roi.
Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;?Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.
Na boed gwen dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrals,?Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.
Na boed byth i'th draed ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw:?Er ei chau a drain a drysni--
Llwybr i'r Baradwys yw.
Boed i'th riaint fyw i'th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;?Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.
Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr."
Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.
"RHYWUN."
Clywais lawer son a siarad?Fod rhyw boen yn dilyn cariad;?Ar y son gwnawn innau chwerthin?Nes y gwelais wyneb Rhywun.
Ni wna cyngor, ni wna cysur,?Ni wna canmil mwy o ddolur,?Ac ni wna ceryddon undyn?Beri im' beidio caru Rhywun.
Gwyn ac oer yw marmor mynydd,?Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;?Gwyn ac oer yw eira Berwyn,?Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.
Er cael llygaid fel y perlau.?Er cael cwrel yn wefusau,?Er cael gruddiau fel y rhosyn,?Carreg ydyw calon Rhywun.
Tra bo clogwyn yn Eryri,?Tra bo coed ar ben y Beili,?Tra bo dwfr yn afon Alun,?Cadwaf galon bur i Rywun.
Pa le bynnag bo'm tynghedfen,?P'un ai Berhiw ai Rhydychen,?Am fy nghariad os bydd gofyn,?Fy unig ateb i fydd--Rhywun.
Caiff yr haul fachludo'r borau,?Ac a moelydd yn gymylau,--?Gwisgir fi mewn amdo purwyn?Cyn y peidiaf garu Rhywun.
[Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg]
MAES GARMON.
Rhagymadrodd.
Boed Hector flaenor a'i floedd,?Eirf Illium a'i rhyfeloedd,?Groeg anwar mewn garw gynnen,?Bynciau y per Homer hen;?Hidled Virgil, wiwged was,?Win awen uwch AEneas;?Gwnaed eraill ganiad eurwedd?Am arfau claer,--am rwyf cledd,?Byllt trwy dan gwyllt yn gwau,?Mwg a niwl o'r magnelau;?Brad rhyw haid, a brwydrau hen,?Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a}?Gwarchau, a dagrau digrawn,?Cotinth a Valencia lawn, {45b}?Eiliant bleth, a molant blaid?Gywreinwych ei gwroniaid.
Mae gennyf yma i ganu?Fwy gwron, sef Garmon gu;?Ag
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.