boen, a chroes a bar,--?Rhinwedd welir a hinon,?Gwenau, a bonllefau llon;?Rhyfela dry'n orfoledd,?Screchiadau yn hymnau hedd.?Ar eirian fro Eryri,?Ei chreigiau a'i hochrau hi,--?Lle mae trigfa'r bar yn bod,?A dwyn arfau dan orfod;--?Lle gwelir llu y gelyn,?A'u bloedd hell, y blwyddau hyn,--?Anhirion elynion lu,?A'u tariannau'n terwynu;--?Anianawl serch yn ennyn,?A ffoi at y gwaew-ffyn;--?Tyf breilos, a rhos di-ri',?Ar hon, a'r loew lili;?Eos fydd bob dydd yn dod?I fryn, yn lle cigfranod:
"Ar y llethri a'r tyli telaid,?Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,?Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,?Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,?Llamsach wyn bach yn ddibaid,--mor ddifyr,?Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.
"Lle codwyd bwyeill cedyrn,?Bydd twmpathau chwarau chwyrn;?Dawnsio pan y darffo y dydd,?A thelyn ar frith ddolydd:?I'n hynys, pan ei hunir,?Daw tawelwch, heddwch hir;?A chywir heddwch a rhyddid?Wneir y dydd hwnnw yn aur did;?Ar wddwf Cymru rhoddir?Y gadwen hon i gadw'n hir;?Y drefn gaeth wriogaethol,?Mwya'i nerth, a i ddim yn ol;?Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg,?I lwyth isel, a Th'wysawg:?Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,?Ri'r gwlith, yn eu plith o'u plaid;?Colofnau y breintiau bras,?A chadarn-weilch y deyrnas;?Ar bob mater a cherydd,?Rheithwyr yn farnwyr a fydd:?'R un fro wnaeth gwyar yn frith,?O dda gynnyrch ddwg wenith;?Cod yr amaeth, cydia'i rwymau,?Cain reolau, cyn yr haulwen;?Deil waith odiaeth, dol a thidau,?Iau a bachau lle bo ychen;?Teifl yr hadau,--llusga'r ogau,?Egyr ddorau gwar ddaearen,?Er cael cnydiau, yn eu prydiau,?Rhag i eisiau rwygo asen.
"Esmwytho nos amaethydd,?Heddwch, diofalwch fydd,--?Y daw gelyn digwilydd?I'r berllan, na'r ydlan rydd;?Ac ni raid braw daw un dydd,?Ryw ormeswr i'r maesydd,?Neu Fodur cryf i fedi?'Nol anferth drafferth i drin:?Tybia'i wlad yn Baradwys,--?Dyry gainc wrth dorri'i gwys?A swch fuasai awchus?Gleddyf un dewr hyf di-rus;?Ymaith ar unwaith yr a,?Uwch ei boen y chwibiana.
"Ac anterth cymer gyntun,?Heb i ofal atal hun;?O hyd yn ddiwyd ddiarf?Heb fod dan orfod dwyn arf?Heb elynion o Gonwy?O fewn maes i'w hofni mwy.
[Castell Conwy. "Heb elynion o Gonwy?O fewn maes i'w hofni mwy.": alun25.jpg]
"A thew ffrwyth ar?Gwnna'n gynnar;?Daw mawnog, gallt, a mynydd,?A bronydd, yn dir braenar.?"Y ddwy wlad cyd addolant,?Cyd foli'r Ion union wnant;?Rhont glodydd i'w Dofydd da,?Law-law mewn Haleluia:
"Yna y tyf yn y tir?Bob helaeth wybodaeth bur,?O ddirgelion meithion mor,?Daear, a'i sail, hyd i'r ser.
"Helicon pob ffynnon ffel,?Parnassus pob bryn isel:?Eu rhyfedd faner hefyd?Achuba, orchfyga fyd;?O Gressi'r maes hagr asw,?I antur lan Waterlw:?Ac y diwrnod cadarnwych?Bydd y deyrnas addas wych?Heb ei bath, heibio i bob?Un arall o fewn Ewrob;?Rheola mewn rhialyd?O begwn i begwn byd."
Gyda bloedd, gweda Bleddyn,?"Y nefol Ior wna fel hyn,?Foreu tawel o frad tywyll,?A llewyrcha o'r ddichell erchyll:?Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,?Yna pawb a awn i'n pebyll."
CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.
Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd--
Yn filoedd dowch i foli Duw;?Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:?Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
A'r tymhorau bob yr un,--?Yn eu dull yn dwys bregethu--
"Derfydd dyddiau byrion dyn."
Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd,
Alwai'n chwaneg mo'no chwi;?Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
A lladmerydd y bum i;?Mi fynegwn ddull y tywydd,
P'un ai teg ai garw'r gwaith,?Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith.
Do, mi wyliais gylch eich drysau
Ar ryw oerion oriau hir,?Rhag i ddynion drwg eu nwydau
Dorri eich aneddau'n wir;?Tywydd garw, mwy nag oerni,
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,?A chan ofal i'ch gwas'naethu
Methais gysgu lawer gwaith.
Daeth fy ystod at ei therfyn,
Darfu'm tro oddeutu'ch tre',?Un galenig wyf yn ofyn
Am fy llafur yn y lle;?Chwi sy'n meddu da a moddion--
Digon sy'n eich llety llawn,--?Gwnai ychydig o'ch gweddillion
DIC a'i deulu'n llawen iawn.
LLWYDD GROEG.
Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.
Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau--Groeg,
Hir rwyged ei llongau?Bob rhes o lu gormes gau,?Drwy'r moroedd draw a'r muriau.
"A llwydd gyfarwydd a fo?I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo:?Na lanwed yn oleuni,?Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli';?Ond isel, isel eisoes?Drwy gred ymgrymed i'r Groes.
A thra tonn, Marathon, a muriau,?A rhin milwyr yr hen ymylau,?A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,?O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,?Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,--yn haid,?Weis Soldaniaid, isel eu doniau."
[Marathon. "A thra tonn, Marathon, a muriau,?A rhin milwyr yr hen ymylau.": alun33.jpg]
Fal hyn o bob dyffryn deg,?Ac ynys a gylch gwaneg;?O'r tyrau muriau mawrion,?Mannau dysg a min y donn,--?Y glau Awen a glywodd?Y llais, a'r adlais a rodd?Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd?Ei golau ddawn ac ail ddydd.
Ar ystlysau ei mynyddau,?A'i ffynhonnau hoff yn unawl,?Gwelwyd chwithau, a'ch telynau,?Hen dduwiesau hoen ddewisawl;?Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol--eich gwlad,?Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.
Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,?Cysgodolion y diwydion dadau,?Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,?Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau,?A neidiant, beiddiant o'u beddau,--a'u plant?A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.
Mae Pindar, oedd gar gorwyllt,?A dawn ei gan o dan gwyllt;?Tyrtaeus yn troi tuedd,?I roi clod i wyr y cledd:?"O! (meddant,) p'le mwy addien,?Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen??Ein gwlad fwyn, o glod a fu,?Unwaith, yn mawr dywynnu,?Eto'i gyd ytyw a'i gwedd,?A'i rhannau yn llawn rhinwedd:?Ym mro bon y mae hir haf,?Ber awel a byrr aeaf.?Yr haul y sy'n rheoli,?Heb roi haint, ar ei bro hi;?Mae nos, yn
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.