y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion.
Ganwyd Robert Thomas (Ap Vychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athraw duwinyddol.
III.--GERDDI BLUOG,--CARTREF BARDD.
Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno.
Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog.
IV.--PANT Y CELYN,--CARTREF PER GANIEDYDD.
Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno.
Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791.
V.--BRYN TYNORIAD,--CARTREF GWLADGARWR.
Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.
Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.
VI.--TREFECA,--CARTREF DIWYGIWR.
Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd.
Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.
VII.--CAER GAI.--CARTREF UCHELWYR.
Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy.
Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith. Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a Gwerfyl dipyn yn gynt.
VIII. --CEFN BRITH,--CARTREF MERTHYR.
Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf.
Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.
IX. --GLAS YNYS,--CARTREF BARDD CWSG.
Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r mor. O Harlech yr eir yno gyntaf.
Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg. Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys Llanfair.
X. --TY'R FICER,--CARTREF BARDD MOES.
Y mae Ty'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn adfeiliedig iawn.
Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.
XI. --Y GARREG WEN,--CARTREF CANWR.
Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorth Madog, y mae amaethdy'r Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag gwynt y mor.
Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.
XII. --TY DDEWI,--CARTREF SANT.
Saif Tyddewi ar lan mor gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf Hwlffordd.
Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant. Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.
DOLWAR FECHAN.
Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre,--yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind. Trwy'r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy'r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i lawr trwy'r coedydd tewfrig deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, ac hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,--er byfryted ydyw ar ol poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r gwlaw taranau'n peidio, a'r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.
Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,- -ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w cherdded ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau tyner, yn gwneyd iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milldir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig. Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd
Continue reading on your phone by scaning this QR Code
Tip: The current page has been bookmarked automatically. If you wish to continue reading later, just open the
Dertz Homepage, and click on the 'continue reading' link at the bottom of the page.